Llai na mis ar ôl ymddeoliad Gareth Bale, daeth y newyddion na fydd Joe Allen yn gwisgo crys coch Cymru eto.

Ar ôl 74 o gapiau mae’r dewin o Arberth yn rhoi’r gorau iddi. Bydd ei absenoldeb yn gadael bwlch mawr yng nghanol cae tîm Rob Page.

Rydw i’n siomedig iawn i glywed y newyddion. Dim ond 32 yw Allen wedi’r cwbwl, ond mae o’n nabod ei gorff yn well na neb ac mae’n rhaid parchu ei benderfyniad.

Rydyn ni gyd yn caru Joe, yndan?