Roedd y byd yn teimlo’n gandryll.
Doedd o ddim fel storm. Ddim fel taran, fel y byddwn i wedi meddwl cyn i hyn ddigwydd. Ro’n i wedi bod yn ddigon pell o lygad y cryndod yn naeargrynfeydd y gorffennol, wedi teimlo’r effeithiau ond o bellter. Mae storm yn bodoli uwch plisgyn y ddaear, yn symud dros y tir gyda’r aer a’r cymylau; Mae ganddo rywle i fynd, bob tro. Ond daeargryn – mae daeargryn yn anghenfil sydd wedi ei gaethiwo ers talwm. Dim ond i un lle mae o eisiau mynd – allan.