Am y tro cynta’, bron, mae yna deimlad eitha’ cyffredinol fod rhaid gwneud rhywbeth i ddadwneud effeithiau gwaetha’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yng Ngogledd Iwerddon, y sôn ydi fod y ddwy ochr – Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd – yn agos at daro bargen ar y protocol, un fydd yn llacio ychydig ar y fiwrocratiaeth fasnachol ac yn creu system ddwy lefel o ran mewnforio o’r tir mawr.