Mae ‘crimes passionnel’ yn bodoli yn y byd go-iawn.

Troseddau treisgar, megis llofruddiaeth, sy’n digwydd oherwydd ysgogiad cryf a sydyn – fel dicter neu genfigen – yn hytrach na throseddau y mae bwriad i’w cyflawni ymlaen llaw.

Oes modd i ni eu trafod? Ydy e’n dderbyniol darllen nofelau am crimes passionnel. Ydy e’n dderbyniol i sgwennu cân am y fath beth, megis ‘Delilah’, lle mae’r llofrudd yn llawn edifar am ei weithred?

Mae baledi am lofruddiaeth wedi eu canu ers canrifoedd. Ydy ni’n bobl ddigon aeddfed, felly, i ddelio â chynnyrch o’r fath? Neu a oes angen i ni gael ein gwarchod gan ryw fath o blismyn diwylliannol – er mwyn ein ‘cadw’n saff’?

A ddaeth yn amser i ni gytuno na ddylai cynnyrch o’r fath fodoli o gwbl? A’n bod yn gwahardd unrhyw lyfr, ffilm neu gân sy’n delio gyda materion megis llofruddiaeth? Hynny yw, os oes peryg i’r fath gynnyrch dramgwyddo unrhyw un, a ddylid ei wahardd?

Os felly, ffarwel i gynnyrch megis:

 

  • Strangers on a Train gan Patricia Highsmith – nofel lle mae dau ddyn yn trafod llofruddio ‘problem’ y llall – un ohonynt yn fenyw.
  • holl lyfrau Patricia Cornwell, megis Post Mortem, am y gwyddonydd fforensig, Kay Scarpetta, sy’n ymchwilio i lofruddiaethau erchyll.
  • Appointment With Death gan Agatha Christie, lle gwenwynir dynes o’r enw Emily Boynton.
  • ffilmiau Alfred Hitchcock, megis Psycho… a llawer mwy.

 

Ffarwel hefyd i’r opera Carmen, gan Georges Bizet – plot spoiler, mae Carmen yn cael ei lladd ar ddiwedd y darn.

Digon teg? Rhesymol? Cymesur?

Ai dyma’r dyfodol yr hoffech ei weld o ran ein diwylliant? Sef bod rhywun arall yn rheoli’r hyn y gallwch ei weld, ei glywed neu ei ddarllen?

Ac, os felly, pwy fydd yn penderfynu beth sy’n addas ar ein cyfer?

Gweinidogion y llywodraeth? Neu, fel heddiw, y keyboard warriors sy’n mynnu, o bryd i’w gilydd, nad oes lle yn ein diwylliant, bellach, i ganeuon megis ‘Delilah’?

Bwlio digidol

Y broblem gyda hynny, wrth gwrs, yw fod gwaith y keyboard warriors rhywfaint ar hap. O bryd i’w gilydd, fe’u gwelwn yn ymosod ar rywun, gyda’r nod o ddileu gwaith y person – tra hefyd yn bygwth eu dileu yn gyfan gwbl. Byddai rhai yn galw hyn yn fwlio digidol.

A pheth hawdd, wrth gwrs, yw ychwanegu eich llais at y fath ymgyrch. Modd i ddangos eich bod yn gwarchod hawliau pobl eraill – a’ch bod, felly, yn llawn rhinweddau da.

Ac wrth ychwanegu eich llais i’r dorf sydd wrthi’n chwifio’i pitshffyrch rhithiol, nid oes angen i chi orfod meddwl am ben-draw bosib eich ymgyrch. Am eich effaith ar waith awduron, cerddorion ac artistiaid – a’n rhyddid i fynegi barn – ac i weld, clywed neu ddarllen deunydd, yn rhydd o unrhyw blismona.

Yn y cyfamser, diddorol yw nodi pwy yw targedau’r ffilistiaid diwylliannol. Mae llawer ohonynt yn hen ddynion – fel Tom Jones. Ond prin yw’r cwyno am waith pobl ifanc megis y rapper o Chicago, Chief Keef.

Dyma ran o’i gân ‘You’:

 

You say you ain’t gon’ let me f**k, and I feel you

But you gon’ suck my d**k ‘fore I kill you

 

Ble mae’r ymgyrch yn erbyn misojini amlwg a helaeth caneuon rap? Ble mae cysondeb y keyboard warriors?

Ar y llaw arall, oes hawl i’r geiriau yma fodoli o gwbl?

Rwy’n eu casáu – ac rwy’n meddwl fod Chief Keef yn berson uffernol o afiach. Ond yn hytrach na rhoi terfyn ar ei waith, fe ddylwn ymateb drwy ei feirniadu a thrwy ddefnyddio misojini ei ganeuon er mwyn sbarduno sgyrsiau am ymwrthod â phob math o drais a sicrhau parch i fenywod a phawb arall.

Os ydych yn anghytuno â mi, yna beth am y geiriau yma:

Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn fel gyda gwraig y mae’r ddau wedi gwneud ffieidd-dra; y maent i’w rhoi i farwolaeth.

A ddylid canslo’r llyfr sy’n eu cynnwys?

Sef y Beibl.

Nid yw’r egwyddor o ganslo ‘Delilah’ yn gynaliadwy. Os cefnogwn ei ganslo, yna sut allwn gwyno pe defnyddir yr un egwyddorion er mwyn canslo mwy a mwy o’n cynnyrch diwylliannol?

A ydym am fyw mewn gwlad debyg i Rwsia Putin, lle nad oes modd i ni fynegi barn, darllen nofel, neu wrando ar gân – heblaw ei fod wedi ei gymeradwyo gan eraill?

Mae’n bryd i ni ddadlau yn erbyn y keyboard warriors – ac mae’n bryd i gyrff megis Undeb Rygbi Cymru wneud hynny hefyd.

Yn y cyfamser, gwych o beth oedd clywed cefnogwyr tîmoedd rygbi Cymru ac Iwerddon yn bloeddio ‘Delilah’ yng ngwesty’r Angel a thu allan i’r City Arms, adeg y gêm ddiweddar yng Nghaerdydd.

Safwn yn y bwlch dros ein rhyddid i fynegi barn.