Fe fydd modd i bump o arweinwyr annibyniaeth Catalwnia fod mewn swyddi cyhoeddus unwaith eto, ar ôl i Uchel Lys Sbaen ddileu’r dyfarniadau gafodd eu cyflwyno yn sgil eu rhan yn helynt 2017.

Daw hyn yn dilyn newid i’r cod troseddol.

Y pump dan sylw yw’r cyn-Lefarydd Carme Forcadell, y cyn-weinidogion Josep Rull a Joaquim Forn, a’r ymgyrchwyr Jordi Sànchez and Jordi Cuixart.

Bydd modd iddyn nhw sefyll mewn unrhyw etholiad o hyn ymlaen.

Ond mae gwaharddiadau pedwar arall yn dal yn eu lle, ar ôl iddyn nhw gael eu dedfrydu i garchar am ddegawd cyn derbyn pardwn.

Mae’n golygu bod Oriol Junqueras, llywydd Esquerra, a Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol Junts per Catalunya, wedi’u gwahardd o hyd tan 2030 a 2031.

Mae dau aelod arall o Esquerra, y cyn-weinidogion Raül Romeva a Dolors Bassa, hefyd wedi’u gwahardd tan 2030 a 2031.

Adolygiad

Aeth y Goruchaf Lys ati i adolygu’r dedfrydau gafodd eu cyflwyno fis Hydref 2019.

Bryd hynny, cafodd naw o arweinwyr gwleidyddol eu dedfrydu i naw i 13 o flynyddoedd o garchar am annog gwrthryfel a chamddefnyddio arian cyhoeddus.

Yn 2021, cawson nhw bardwn gan Lywodraeth Sbaen ac fe gawson nhw eu rhyddhau o’r ddalfa ond roedd y gwaharddiadau’n dal i fod yn eu lle.

Cafodd y cod troseddol ei adolygu’n ddiweddar yn dilyn cytundeb rhwng y Sosialwyr ac Esquerra, wrth i’r drosedd o annog gwrthryfel gael ei newid i drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus trwy drais, sy’n drosedd lai difrifol.

Cafodd y gosb am gamddefnyddio arian ei llacio hefyd mewn rhai achosion.

Dyfarniad

Yn y dyfarniad gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Chwefror 13), penderfynodd barnwyr dileu’r drosedd o annog gwrthryfel yn achos Romeva, Junqueras, Turull a Bassa a’i newid i anufudd-dod a chamddefnyddio arian cyhoeddus.

Ond fe wnaethon nhw wrthod dileu neu leihau’r gwaharddiad rhag bod mewn swydd gyhoeddus mewn perthynas â chamddefnyddio arian.

Dedfryd am drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus drwy drais sydd gan Jordi Sànchez a Jordi Cuixart bellach, ac mae’r drosedd o annog gwrthryfel wedi’i dileu yn achos Carme Forcadell, Josep Rull a Joaquim Forn, yn gyfnewid am anufudd-dod.

Gan fod dedfrydau llai am y droseddau newydd, mae eu dedfrydau eisoes ar ben.

Mae’r cod troseddol newydd yn eithrio unrhyw arweinwyr annibyniaeth oni bai eu bod nhw’n defnyddio trais neu fygythiadau.