Mae Climate Cymru wedi lansio deiseb frys i Bwyllgor Deisebau’r Senedd yn galw ar Aelodau o’r Senedd yng Nghaerdydd i graffu ar fater mesuryddion rhagdalu.
Fel rhan o ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma, ochr yn ochr â grwpiau ymgyrchu eraill, mae Climate Cymru wedi bod yn lobïo Aelodau o’r Senedd i godi cwestiynau ar orfodi gosod mesuryddion rhagdalu, ac wedi gofyn i Lywodraeth Cymru godi pryderon yn San Steffan ynghylch y gweithredu annynol hwn.
Dywed Bethan Sayed, cydlynydd ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma, ei bod hi’n “bwysig fod y Senedd yn edrych ar faterion sydd o fewn eu gallu nhw i’w newid”.
Bu’r mater yn y penawdau dros yr wythnosau diwethaf, wrth i nifer leisio’u pryderon am effaith y mesuryddion rhagdalu ar bobol fregus.
“Mae yna lot fawr o bobol sydd ar y mesuryddion yma yn dioddef o bethau meddygol gwahanol, sydd yn gwneud iddyn nhw orfod defnyddio mwy o egni yn ystod y dydd,” meddai Bethan Sayed wrth golwg360.
“Mae plant yn cael eu diffinio fel categori bregus, ydyn nhw’n cael digon o gefnogaeth fel ynni yn y tŷ iddyn nhw allu bod yn ddigon twym i wneud pethau fel gwaith cartref?
“Hefyd mae’n bwysig bod y Senedd yn edrych ar hyn i weld sut mae mesuryddion rhagdalu wedi effeithio ar ddinasyddion Cymru yn fwy cyffredinol.
“Mae’r Senedd yn gallu dylanwadu, maen nhw’n gallu dwyn llais cryf i San Steffan a dyna pam dw i’n credu bod angen ymchwiliad ar lefel y Senedd yma yng Nghymru, achos mae unrhyw fath o blatfform i gael trafodaeth ar y sgandal yma yn mynd i fod o fudd, boed ni’n cael pwerau oll ai peidio.
“Mae nifer o bobol sydd wedi cael eu rhoi ar y mesuryddion yma’n dod o dan y categori bregus, ac mae ymchwiliadau gan y wasg Brydeinig wedi dangos fod hynny wedi digwydd heb bo nhw wedi cael y caniatâd priodol a heb roi’r cymorth digonol i bobol, a’r manylion o sut fydden nhw’n gallu talu dros gyfnod mewn ffordd decach.
“Mae rhywbeth sydd ynglŷn â hawliau dynol rhywun ble mae’r cwmnïau yma’n mynd mewn i dai ac yn tanseilio bywydau pobol wrth wneud hyn.
“Rydyn ni’n credu fod angen edrych y system yn hollol ac adnewyddu’r system yn ei gyfanrwydd a gweld os oes yna ffyrdd gwahanol o drin pobol a systemau talu gwahanol, oherwydd yr eironi yw bod y bobol fwyaf bregus yn talu mwy gan fod y standing charges yn fwy ar y rhain.
“Rydan ni’n byw mewn sefyllfa ble mae’r bobol sydd y fwyaf agored i niwed yn talu mwy am eu hynni, ac mae’n broblem fawr yn ein cymdeithas ar hyn o bryd.”
‘Angen ad-dalu am y sefyllfa’
“Mae rhai pobol yn hoffi cael y system o fesuryddion rhagdalu achos maen nhw’n gallu cadw golwg ar faint maen nhw’n talu,” meddai Bethan Sayed wedyn.
“Ond yr anghyfiawnder wrth gwrs ydy eu bod nhw’n talu mwy.
“Felly mae angen edrych ar bethau fel social tariffs, sut rydan ni’n tynnu defnydd ynni lawr yn gyfan gwbl drwy inswleiddio, ac edrych ar sut allwn ni ddatblygu egni cynnaladwy yn ein cymuned fel bod pobol yn gallu buddio o’r hyn sy’n cael eu creu yn eu cymunedau.
“Felly mae yna bethau sy’n gallu cael eu gwneud i newid y farchnad ynni ac mae hynny’n mynd i fod yn y tymor hir.
“Yn y byr dymor, mae angen stop llawn o roi’r mesuryddion yma yn nhai pobol fregus a gweld sut y gallen nhw gael eu had-dalu am y sefyllfa yma, a sicrhau bod y mesuryddion yma’n cael eu tynnu ma’s os ydyn nhw wedi eu gosod mewn ffordd sydd ddim yn gyfiawn.”