“Hunanladdiad yw un o’r materion iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol sy’n wynebu’r byd heddiw,” yn ôl rheolwr Amser i Siarad, elusen iechyd meddwl lleol sy’n cefnogi pobol Gwynedd a Môn sy’n profi problemau iechyd meddwl.
Ar gyfer Cymru, mae’r data’n awgrymu mai dyma un o’r tri phrif achos marwolaeth ymhlith pobol 45-54 oed, ac yn enwedig ymhlith dynion.
Mae’n cyfrif am 27% o achosion marwolaeth ar y cyfan.
Am bob un hunanladdiad, mae o leiaf chwech o bobol yn cael eu heffeithio.
Mae gan Amser i Siarad hyfforddiant ymyrraeth hunanladdiad cymhwysol ar Chwefror 20 a 21, rhwng 9yb a 5yh yn Galeri Caernarfon, ac mae’n costio £190.
Yn ol Clare Bailey, Rheolwr Amser i Siarad, nod yr hyfforddiant yw “grymuso rhywun i adnabod yr arwyddion a darparu cymorth achub bywyd”.
“Pan fydd pobl yn meddwl am hunanladdiad, maen nhw bron bob amser yn mynegi eu poen mewn ffyrdd sy’n gwahodd eraill i estyn allan a helpu,” meddai wrth golwg360.
“Mae hyfforddiant yn grymuso rhywun i adnabod yr arwyddion hyn a darparu cymorth achub bywyd.
“Gall unrhyw un, waeth beth fo’u cefndir neu brofiad, ddysgu sgiliau i gadw rhywun yn ddiogel ac yn fyw.
“Mae’n darparu model, llwybr i gynorthwyo bywyd y gall pobl ei ddysgu a theimlo’n hyderus i ymgymryd ag ymyriad gyda rhywun a allai fod mewn perygl o hunanladdiad a’u cadw’n ddiogel a thynnu ar gymorth pellach.”
Hyfforddiant i bawb
Yn aml, nid gweithwyr proffesiynol yw’r bobol agosaf at y sawl sy’n ystyried lladd eu hunain, ac mae’n bwysig bod y bobol yma yn gwybod sut i ddelio â’r mater.
“Dylai pawb wneud y cwrs yma,” meddai Clare Bailey wedyn.
“Pan fydd rhywun yn mynd mor sâl ac mor isel fel y gallen nhw fod yn profi teimladau o eisiau lladd eu hunain, nid gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yw’r rhai cyntaf wrth law ond eu ffrindiau, teulu a grwpiau cyfoedion, felly mae’n bwysig meithrin sgiliau cymaint o bobol â phosibl.
“Mae gan yr hyfforddiant gymysgedd o wahanol sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd.”
‘Gellir atal y mwyafrif helaeth o hunanladdiadau’
Dydy hunanladdiad ddim yn fater syml, mae’n digwydd bob dydd yn rhywle yn y wlad, ac mae rhai grwpiau’n fwy bregus na’i gilydd ac yn fwy agored i hunanladdiad.
Mae hefyd yn bwnc tabŵ, ynghyd â salwch iechyd meddwl ar y cyfan.
Ond gyda’r hyfforddiant cywir, mae’n bosib ei rwystro, yn ôl Clare Bailey.
“Hunanladdiad yw un o’r materion iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol sy’n wynebu’r byd heddiw,” meddai.
“Mae rhesymau pobol dros feddwl am hunanladdiad mor gymhleth ac amrywiol â’r unigolion hynny eu hunain.
“Yn bwysicaf oll, gyda’r wybodaeth a’r sgiliau cywir, gellir atal y mwyafrif helaeth o hunanladdiadau.
“Yng Nghymru, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y dynion rhwng y grŵp oedran 45 a 54 oed.
“Mae stigma ynghylch iechyd meddwl a hyd yn oed y gair hunanladdiad.
“Mae effeithiau unrhyw hunanladdiad yn enfawr.
“Mae’n effeithio ar deulu, ffrindiau a chymunedau, ac mae unrhyw beth all helpu i gadw bywyd yn werthfawr iawn.
“Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddatblygu yng Nghanada, ac fe’i hystyrir fel y rhaglen ymyrraeth hunanladdiad fwyaf blaenllaw yn y byd.
“Gellir rhwystro hunanladdiad drwy feithrin sgiliau cynifer o bobol â phosibl i adnabod a bod yn wyliadwrus o’r arwyddion y gallai rhywun fod mewn perygl o hunanladdiad, ac i ddysgu sgiliau i ymgymryd ag ymyrraeth yn hyderus.
“Mae yna rôl hefyd o ran ceisio cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â’r gair hyd yn oed, felly os yw pobol yn teimlo mor isel eu bod wedi dechrau meddwl am hunanladdiad, rydym yn creu amgylchedd o fewn ein cymunedau lle mae pobol yn teimlo ei bod hi’n iawn datgelu i rywun sut maen nhw wedi bod yn teimlo.”