Mae apêl wedi cael ei lansio i geisio achub gwesty hanesyddol lle cafodd yr Eisteddfod gyhoeddus gyntaf ei chynnal.
Y gobaith ydy codi £500,000 i droi Gwesty Owain Glyndŵr yng Nghorwen yn fenter gymunedol.
Mae’r gwesty ar ffordd hanesyddol yr A5 o Lundain i Gaergybi, ffordd sydd wedi cario llengoedd Rhufeinig, y goets fawr, aelodau seneddol Gwyddelig a thwristiaid ers bron i 2000 o flynyddoedd.
Mae’r gwesty’n un o wyth tafarn draddodiadol sydd ar ôl ar yr A5, ac mae’r perchennog Ifor Sion, gŵr lleol sydd wedi rhedeg y gwesty ers chwarter canrif, yn fodlon gwerthu’r dafarn i’r fenter am £300,000.
Byddai angen £200,000 ychwanegol ar Bartneriaeth Corwen i wneud gwaith adnewyddu ar yr adeilad.
“Yr hyn sy’n ein hannog yw gweld be’ sydd wedi digwydd i westai tebyg sydd wedi eu cau a’u ffenestri wedi eu byrddio,” meddai David Counsell, cadeirydd Partneriaeth Corwen.
“Byddai’n drychineb i Gorwen petai hynny’n digwydd i’r OG, fel mae’n cael ei hadnabod.
“Mae’r dref wedi dioddef yn ddiweddar gyda nifer o dafarndai a busnesau lleol eraill yn cau eu drysau.
“Rydym ni’n gobeithio drwy brynu’r OG fel cymuned, y gallwn wyrdroi’r duedd yma, troi’r gwesty yn atyniad pwysig eto, a chyda thrên Llangollen a Chorwen ar fin agor, byddwn yn gallu croesawu mwy o ymwelwyr a rhoi Corwen ar y map unwaith eto.
“Rydym ni’n gweld yr OG fel mwy na thafarn. Rydym am ei gwneud yn ganolbwynt i’r gymuned gyfan.”
Yr Eisteddfod gyntaf
Mae cefn y gwesty’n dyddio’n ôl i 1329, ac mae’n debygol iawn y byddai Owain Glyndŵr, gafodd ei eni yng Nglyndyfrdwy yn 1354, wedi pasio neu hyd yn oed alw draw.
Yn ôl haneswyr, mae hi’n bosib y gallai mynachod o eglwys gyfagos Saint Mael a Sulien, yr oedd cyfeiriadau atyn nhw mewn croniclau 800 mlynedd yn ôl, fod wedi bragu cwrw yno.
Erbyn y ddeunawfed ganrif, roedd yr adeilad yn cael ei adnabod fel The New Inn, meddai’r hanesydd lleol Dylan Jones, ac mae blaen yr adeilad yn perthyn i ddechrau’r ganrif honno.
Yn 1789, cafodd yr Eisteddfod gyhoeddus gyntaf ei chynnal yno, a honno’n syniad Thomas Jones, gŵr lleol, gyda chefnogaeth Cymdeithas y Gwyneddigion, sefydliad diwylliannol o Gymry Llundain.
“Nid oedd yr Eisteddfod heb ei dadleuon, gyda’r trefnydd yn gadael i un bardd wybod ymlaen llaw beth fyddai testun un o’r cystadlaethau,” meddai Dylan Jones.
“Fe enillodd y ffefryn, Gwallter Mechain, gan achosi dadleuon ymysg y beirdd eraill, gan gynnwys yr enwog Twm o’r Nant, a bu i gyhuddiadau o dwyllo bron iawn arwain i ornest rhwng cefnogwyr gan gynnwys llawfeddyg Captain Cook, David Samwell o Nantglyn, noddwr Twm.”
Er mwyn prynu adeilad cofrestredig gradd II, mae’r fenter angen i bobol leol brynu un neu fwy o’r 2,500 siâr sydd ar gael am £200 yr un cyn Gorffennaf 1 eleni.