Mae YesCymru wedi ethol pedwar cyfarwyddwr newydd yn dilyn pleidlais.

Cafodd cyfanswm o 1,221 o bleidleisiau eu bwrw ar sail pleidlais drosglwyddadwy sengl.

Roedd 1,209 o bleidleisiau dilys, a deuddeg yn annilys.

Bydd Naomi Hughes yn cynrychioli rhanbarth de-ddwyrain Cymru.

Cafodd Ethan Jones, David Hannington-Smith ac Irram Irshad eu hethol yn ddiwrthwynebiad.

Darlith Gŵyl Ddewi

Yn y cyfamser, mae’r mudiad annibyniaeth wedi cyhoeddi Darlith Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu 300 mlwyddiant geni’r athronydd moesol, gweinidog Anghydffurfiol a mathemategydd, Dr Richard Price.

Dyma ddarlith gynta’r mudiad eleni, ac mi fydd yn cael ei chynnal yn yr Academi STEAM ym Mhen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn, Mawrth 4 am 6.30yh.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi digwyddiad i ddosbarthu taflenni ar ddiwrnod y gêm rygbi fawr rhwng Cymru a Lloegr ar Chwefror 25.

Mae’r mudiad hefyd yn annog aelodau i gyfrannu at sgwrs sy’n deillio o Blog Bendigeidfran, gyda darn wedi’i gyhoeddi yn trafod tlodi yng Nghymru o fewn y Deyrnas Unedig.

Mae’r blog yn ymateb i sylwadau David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, yn canmol y ffaith y bydd 400,000 o aelwydydd yng Nghymru’n derbyn taliad cyntaf i’w helpu gyda chostau byw yn y gwanwyn.