Mae oddeutu 200 o bobol wedi dod ynghyd ar gyfer diwrnod cyntaf achos llys yn erbyn Llefarydd Llywodraeth Catalwnia.

Mae Laura Borràs, llywydd plaid Junts per Catalunya, yn wynebu cyhuddiadau yn Uchel Lys Catalwnia o hollti cytundebau er mwyn osgoi prosesau tendr pan oedd hi’n gyfarwyddwr Sefydliad Llythyrau Catalwnia, corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am hyrwyddo llenyddiaeth yn yr iaith Gatalaneg.

Daeth hi’n Llefarydd Senedd Catalwnia yn 2021.

Pe bai’r llys yn ei chael hi’n euog, gallai hi gael ei charcharu am 21 o flynyddoedd a chael dirwy o €144,000 yn unol â chais yr erlynydd.

Cafodd ei diarddel o’i swydd fis Gorffennaf y llynedd yn dilyn y cyhuddiadau, ac mae disgwyl i’r achos bara tan Fawrth 1, a bydd hi’n cael ei chroesholi yr wythnos nesaf.

Ymhlith y rhai y tu allan i’r llys fu’n ei chefnogi mae aelodau Junts per Catalunya, yr ANC, a Consell per la República dan arweiniad Carles Puigdemont ac roedden nhw’n chwifio baner yr ‘estelada’ ac yn llafarganu.

Ond doedd Esquerra na’r CUP ddim yno, gan ddadlau nad yw’r achos hwn yn gysylltiedig ag annibyniaeth, ac fe wnaeth hi wynebu gwrthwynebiad chwyrn gan rai oedd yn taflu arian ati y tu allan i’r llys â’r gair “llwgr” arno.

Mae nifer o bleidiau’n dadlau na fydd hi’n wynebu achos llys teg gan fod y llysoedd ar y cyfan yn dilyn cyfarwyddyd Sbaen.

Yr achos

Mae Laura Borràs a ffrind, sy’n gweithio ym maes technoleg gwybodaeth, wedi’u cyhuddo o dwyll gweinyddol ac mae Borràs hefyd wedi’i chyhuddo gan farnwr o esgeuluso’i dyletswydd swyddogol, ffugio dogfen fasnachol a chamddefnyddio arian cyhoeddus.

Ond dydy erlynwyr ddim yn ei chyhuddo o gamddefnyddio arian cyhoeddus gan nad oes dogfennau i gefnogi’r honiad ei bod hi wedi talu swm ychwanegol am y gwaith dan sylw.

Rhwng Mawrth 2013 a Chwefror 2017, fe wnaeth Sefydliad Llythyrau Catalwnia ddyfarnu 18 o gytundebau bach, trwy law cyfarwyddwr, a’r rheiny’n ymwneud â’u gwefan.

Swm y cytundebau oedd €330,000.

Yn ôl adroddiad gan farnwr fis Mawrth y llynedd, mae Laura Borràs wedi’i chyhuddo o “ymyrryd”, “cynnig a dyfarnu’r cytundeb”, “cymeradwyo’r gwariant”, “awdurdodi gweithrediad y gwasanaeth”, “rhoi’r anfoneb gyfatebol” ac “awdurdodi’r taliad”.

O blith y cytundebau hyn, cafodd chwech ohonyn nhw eu dyfarnu i Isaías Herrero am gyfanswm o €112,500, ac un i Andreu P.M., am €20,050 ac mae’r ddau ddyn yn wynebu cyhuddiadau.

Cafodd chwe chytundeb eu dyfarnu hefyd i Xarxa Integral am gyfanswm o €101,035 a thri chytundeb llawrydd arall gwerth €54,437 i grwpiau roedd Isaías Herrero yn aelod ohonyn nhw.

Talodd y Sefydliad Llythyrau gyfanswm o €309,000 yn y pen draw a chafodd Isaías Herrero ei gyflwyno i’r staff fel pennaeth y wefan gan Laura Borràs.

Fe fu’r ddau yn e-bostio’i gilydd am anfonebau a chytundebau, meddai’r barnwr, sy’n eu cyhuddo o ddefnyddio enwau gwahanol bobol mewn trafodion er mwyn osgoi terfynau ariannol am gytundebau bach.

Ar y pryd, roedd disgwyl i gytundebau cyhoeddus fod yn destun proses dendro, ac mae’r llys yn cyhuddo Laura Borràs o hollti’r cytundebau fel bod taliadau mawr yn dod yn daliadau llai er mwyn cyd-fynd â’r rheolau ar derfynau ariannol fel bod modd dewis pwy fyddai’n derbyn y gwaith yn hytrach na dilyn proses dendro swyddogol.