Mae Alex Jones, y Gymraes sy’n enwog ledled gwledydd Prydain am gyflwyno The One Show, wedi bod yn trafod sefyllfa’r iaith Gymraeg ym mro ei mebyd.
Fe gafodd ei magu yn nhref Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin, ble mae’r ganran o’r boblogaeth sy’n dweud eu bod yn medru siarad Cymraeg wedi cwympo o 50.3% adeg Cyfrifiad 2001, i 39.9% erbyn Cyfrifiad 2021.
Roedd gan y sir 84,196 o siaradwyr Cymraeg yn 2001, 78,048 erbyn 2011, a 72,838 erbyn Cyfrifiad 2021.
Ar droad y ganrif, roedd mwy o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin nag unman arall yng Nghymru, ond oherwydd yr edwino mae’r nifer fwyaf I’w cael erbyn hyn yng Ngwynedd.
Ac mae Alex Jones wedi sylwi ar y ffordd y mae’r gwynt yn chwythu.
Mewn pennod o gyfres Stori’r Iaith ar S4C, mi fydd yn dychwelyd i dref ei magwraeth, “lle’r oedd y Gymraeg i’w chlywed ym mhobman, ond mae popeth wedi newid yn fawr ers hynny,” meddai’r gyflwynwraig sy’n 45 oed.
“Sai’n credu bod gymaint o bobl yn siarad Cymraeg yn Rhydaman a beth oedd e pan o’n i’n tyfu lan ‘ma – s’dim dowt ambyti ‘na… ond dwi’n credu bod Cymreictod y lle, a hanes a diwylliant Rhydaman dal yn bwysig i bawb sy’n byw ‘ma.
“Ond fi’n credu bo’ nhw wedi colli’r hyder i siarad Cymraeg, a ‘ma hwna’n eitha trist.”
O Rydaman i The One Show
Wrth ymweld â’i hen ysgol gynradd – Ysgol Gymraeg Rhydaman – yn y rhaglen, mae Alex Jones yn cydnabod rôl y profiadau amhrisiadwy a gafodd yn sgîl yr addysg Gymraeg wrth feithrin ei hyder.
“O’n i’n ferch swil iawn yn tyfu lan, ac yn edrych nôl fi’n credu taw’r person cyntaf na’th ddylanwadu arna i oedd Prifathro’n ysgol gynradd i – Mr Randall Isaac.
“Roedd pawb yn cael cystadlu yn yr Eisteddfod. I gael cyfle fel ‘na o pan o’n i’n bedair reit lan trwy’r ysgol gynradd ac uwchradd – fi’n credu bod hwnna ‘di rhoi lot o hyder i fi, a fi’n credu bod pethau fel Eisteddfodau, yr ysgol Gymraeg lle fues i – y ddau beth yna wedi helpu fy siwrne o Rydaman i The One Show.”
Siarad Cymraeg gyda’r plantos
A hithau’n byw yn Llundain ac yn fam i dri o blant bach, mae Alex Jones yn benderfynol o feithrin Cymreictod yn ei phlant, a bod yr iaith Gymraeg yn rhan naturiol o’r aelwyd:
“O’dd dim cwestiwn pan ges i’r plant taw Cymraeg fydden i’n siarad ‘da nhw.
“Wedi dweud hynny, achos bod Charlie ‘ngŵr i’n siarad Saesneg, pan y’n ni gyd gyda’n gilydd, Saesneg yw’r iaith, ond wedyn fi dal yn siarad Cymraeg.
“Mae Charlie’n gefnogol iawn o hynny, a ma fe’n darllen storis Cymraeg ‘da Ted cyn mynd i’r gwely, ond ma’ fe’n gwbod yn y bôn bo’ fi’n teimlo bod ishe lot fwy o ymdrech er mwyn rhoi unrhyw fath o sylfaen Cymraeg i’r bois os y’n ni’n aros fan hyn am y blynyddoedd nesaf.”
Bydd ‘Stori’r Iaith: Alex Jones’ ar S4C am naw ar nos Fawrth, 22 Chwefror