Felly Lee Anderson yw dirprwy gadeirydd newydd y Blaid Geidwadol. Rhyfeddol!

Mae pawb yn gorfoleddu ynghylch y penodiad hwn, yn ôl Andrew RT Davies, a dwinna hefyd wedi gwirioni…

Clywais am Lee Anderson am y tro cyntaf pan aeth fideo ohono’n cwyno am denantiaid niwsans ar stad dai leol yn ‘feiral’. Awgrymodd y dylai’r cnafon drwg gael eu hanfon i fyw “mewn pebyll yng nghanol cae a phigo llysiau am 12 awr y dydd cyn cael cawod oer”.

Dyma’r math o wleidydd call a chymedrol sydd ei angen arnom lawr yn San Steffan’, meddyliais i fi fy hun.

Mae Lee hefyd yn awyddus i weld y gosb eithaf yn dychwelyd i ynysoedd Prydain gan resymu fod “neb erioed wedi troseddu ar ôl cael eu dienyddio”. A phwy all ddadlau gyda rhesymeg mor gadarn â hynny?

Fel rhan o’i swydd, fe fydd Anderson yn rhannol gyfrifol am lunio strategaeth y Blaid Geidwadol ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf. A does gen i ddim amheuaeth y bydd doethineb y gŵr hwn yn denu pleidleisiau yn eu miliynau, gan sicrhau mwyafrif iach i’r Ceidwadwyr.

Ond mewn difrif, mae’n rhaid mai rhyw fath o gamgymeriad yw hyn?! Dw i’n dweud wrthych chi, mae gwleidyddiaeth Brydeinig yn mynd yn odiach a mwy dychrynllyd bob wythnos!

Ystyriwch hyn. Llys enw’r dyn ydi ’30p Lee’, a hynny am ei fod wedi awgrymu nad oedd pobol sy’n defnyddio banciau bwyd yn gallu cyllidebu’u harian na choginio. Pe bai ganddyn nhw’r sgiliau craidd hyn, fe fyddai modd iddyn nhw fyw ar brydau ar gost o 30c – yn tydi’r Brydain fodern yn lle ysblennydd i fyw?

Dyma ddyn sy’n fwyaf adnabyddus am gael ei ddal yn trefnu fod ei ffrind yn actio fel pleidleisiwr pendil (swing voter) tra roedd camerâu’n ei ddilyn yn canfasio yn ystod etholiad cyffredinol 2019. Wir i chi, mae’r isod werth ei weld!

Oni bai am fod yn gelwyddgi, mae Anderson wedi gwneud enw iddo’i hyn wrth fynegi casineb llwyr tuag at geiswyr lloches, gwawdio nyrsys, ac edrych lawr ei drwyn ar bobol sy’n dibynnu ar fudd-daliadau.

Erbyn meddwl, bosib mai fe yw’r dyn perffaith ar gyfer y swydd…!