Mae cannoedd o swyddi yn y fantol mewn ffatri prosesu cig ar Ynys Môn, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y newyddion yn ergyd i’r Gymraeg a chymunedau.

Daw hyn ar ôl i gwmni 2 Sisters, sy’n cyflogi 730 o bobol yn Llangefni, gyhoeddi eu bwriad i gau’r safle.

Yn ogystal â beio heriau’r sector cynhyrchu bwyd, dywed y cwmni fod modd iddyn nhw greu eu cynnych yn “fwy effeithlon mewn rhan arall o’n hystâd”.

Serch hynny, mae’r cwmni wedi addo cynnal trafodaethau cyn gwneud penderfyniad terfynol ar ffawd y gweithwyr.

Nid dyma’r tro cyntaf i swyddi fod yn y fantol ar y safle yn Llangefni, gyda phryder am swyddi 300 o weithwyr yn 2015 hefyd.

Cydymdeimlad

Mae rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod cau’r ffatri yn ergyd greulon i unigolion, teuluoedd a chymunedau cyfan, yn Llangefni a thu hwnt.

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn estyn ein cydymdeimlad a’n cefnogaeth i bawb sy’n dioddef oherwydd y penderfyniad hwn,” meddai’r cadeirydd Robat Idris, sy’n byw ym Môn.

“Gofidiwn am yr ergydio pellach yma ar ein cymunedau yn yr ardaloedd tlotaf a Chymreiciaf.

“Bydd pob unigolyn a theulu sy’n penderfynu symud o’r ardal i chwilio am waith yn golled.

“Bydd llawer o’r rhai sy’n aros yn dioddef caledi.

“Tra’n gobeithio y bydd modd perswadio’r cwmni i newid ei feddwl, ofnwn fod hyn yn annhebygol.

“Dro ar ôl tro, gwelwn ailadrodd y patrwm o gwmnïau mawrion yn cau ffatrïoedd ar gyrion eu hymerodraethau pan fydd yr esgid yn gwasgu.

“Dyna ffawd Aliwminiwm Môn, Rehau ac yn ddiweddar Orthios ar yr Ynys.

“Trychineb i’r Gymraeg a’i chymunedau fu dibynnu ar gwmnïau cyfalafol echdynnol.

“Cred y Gymdeithas fod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi busnesau cynhenid, ar hwyluso metrau cymunedol a chydweithredol, ac yn hollbwysig sicrhau perchnogaeth dros ein hadnoddau – hyn sy’n creu gwaith, a chadw yr elw yn lleol.”

‘Hen a rhy fach’

“Mae’n hen, un o’n safleoedd lleiaf ac yn rhy fach i fod yn effeithlon,” meddai datganiad gan y cwmni.

“Mae’r gost o gynhyrchu yma yn uwch, a byddai gofyn am fuddsoddiad sylweddol i gyrraedd yr un safonau â’n ffatrïoedd eraill.

“Fe all ein cynnyrch gael ei greu’n fwy effeithlon mewn rhan arall o’n hystâd.

“Felly, ein cynnig yw dod â gwaith i ben yn y ffatri, gan roi’r safle dan risg o gau.

“Byddwn yn edrych ar yr holl opsiynau cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol am gau’r safle.

“Fe fydd yr opsiynau’n cynnwys cyfleoedd adleoli yn y rhanbarth gyda chymorth yr holl asiantaethau cymorth perthnasol, y tu mewn a’r tu allan i’r busnes.”

‘Newyddion trychinebus’

Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, yn dweud ei bod hi’n bwriadu codi’r mater gyda’r Canghellor Jeremy Hunt.

“Mae hyn yn newyddion trychinebus i’r holl weithwyr hynny sydd mewn perygl o golli eu swyddi yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni,” meddai.

“Cefais fy mriffio gan y cwmni’r bore ’ma ac mae’n ymddangos ei fod wedi cael ei effeithio’n gan ystod o faterion, gyda chynnydd costau ynni yn rhan fawr o’r penderfyniad i ymgynghori ar gau er mwyn diogelu rhannau eraill o’r busnes.

“Byddaf yn siarad â’r undebau yn fuan iawn a byddwn yn cefnogi grŵp tasg yn cael ei sefydlu i helpu i lywio’r hyn sy’n digwydd a beth allai ddigwydd, os bydd y ffatri’n cau.

“Rwyf hefyd yn cyfarfod â’r Canghellor fore heddiw, ac fe fyddaf yn codi’r hyn sy’n digwydd ar yr ynys gydag e ar frys.

“Yn y cyfamser, byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i weithio gyda’r cwmni, yr undebau a’r cyngor wrth i’r broses yma ddigwydd.”

‘Brwydro i helpu’r gweithlu’

Yn y cyfamser, mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd Ynys Môn, yn bwriadu codi’r mater ar frys yn y Senedd brynhawn heddiw (dydd Mercher, Ionawr 25), ac mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu.

Mae’n dweud y bydd yn “brwydro ym mhob ffordd y gallaf er mwyn helpu’r gweithlu”.