Mae mudiad Conradh na Gaeilge wedi croesawu’r amserlen ar gyfer cyflwyno argymhellion y gwelliant i’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol.

Mae’r ymgyrchwyr yn dweud bod yr argymhellion sy’n ymwneud â’r síneadh fada (acenion ar lythrennau), safonau ieithyddol a thargedau recriwtio gwasanaethau cyhoeddus yn arwydd bositif.

Mae disgwyl y bydd bron bob un o’r argymhellion wedi’u cyflwyno erbyn Hydref 31 eleni, ac mae’r mudiad yn dweud eu bod nhw’n cefnogi’r gwelliannau sy’n ymwneud â recriwtio yn y sector cyhoeddus; hysbysebion; deunyddiau marchnata, logos ac enwau swyddogol cyrff yn yr iaith Wyddeleg; mwy o bwerau monitro i’r Comisiynydd Iaith; y newid o gynlluniau iaith i safonau iaith a mwy.

‘Camau pwysig’

“Mae Conradh na Gaeilge wedi croesawu’r newyddion fod y rhan fwyaf o’r argymhellion oedd yn weddill o dan y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol (Gwelliant) 2021 am gychwyn dros y flwyddyn i ddod,” meddai Paula Melvin, llywydd y mudiad.

“Mae’r argymhellion hyn yn gamau pwysig tuag at wireddu nodau’r Ddeddf, ac rydym yn canmol y Gweinidog Catherine Martin a’r Gweinidog Gwladol Patrick O’Donovan am gyhoeddi’r amserlen.

“Mae Conradh na Gaeilge eisoes wedi cyflwyno nifer o’r argymhellion i’w cyflwyno cyn diwedd y flwyddyn, gyda chefnogaeth y gymuned iaith Wyddeleg a’r Gaeltacht.

“Mae hyn yn cynnwys cydraddoldeb i’r Wyddeleg ar ffurflenni, gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg gan grwpiau preifat sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, y defnydd o enwau Gwyddeleg sydd â’r síneadh fada ac eraill.

“Rydym yn hapus fod argymhellion eraill wnaethon ni eisoes ar waith, megis y nod y bydd 20% o’r bobol fydd wedi’u recriwtio erbyn 2030 yn medru’r Wyddeleg, ac y bydd 20% o hysbysebion cyrff cyhoeddus yn yr iaith Wyddeleg gyda 5% o’u cyllideb hysbysebu’n cael ei gwario ar y cyfryngau Gwyddeleg.”

Sicrhau cydymffurfiaeth

“Mae’n bwysig bellach fod gennym ni ddyddiadau terfyn ar gyfer gweithredu argymhellion y Gwelliant i’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol 2021,” meddai Róisín Ní Chinnéide, Rheolwr Eiriolaeth Conradh na Gaeilge.

“Wrth i ni ddod at y dyddiadau hyn, byddwn ni’n parhau i weithio er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus a grwpiau perthnasol eraill yn cyflawni eu dyletswyddau yn unol â’r argymhellion newydd.

“Mae’r dyddiadau hyn yn rhoi digon o amser i gyrff baratoi ac i sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â’r Ddeddf pan ddaw i rym.”