Mae’n debygol y bydd ysgol yng Ngwynedd yn cynyddu eu capasiti o ran nifer y disgyblion gan 25%, mewn ymdrech i roi hwb i addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol i gynyddu nifer y plant sy’n mynychu Ysgol Chwilog ger Pwllheli o 65 i 95.

Gallai ystafell ddosbarth ychwanegol gael ei chreu yn ogystal â chyflogi athro arall.

Mae niferoedd disgyblion yr ardal wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf yn dilyn nifer o ddatblygiadau tai.

Roedd stad o dai marchnad agored gafodd eu codi yn y pentref wedi arwain at nifer o deuluoedd ifanc Cymraeg yn symud yno.

O ganlyniad i’r datblygiad, yn ogystal â dwy ystâd arfaethedig arall, ynghyd ag ailagor y dafarn leol Y Madryn, mae yna “gymuned fywiog Gymreig” bellach, yn ôl adroddiad addysg.

Cyflwynodd y Cynghorydd Beca Brown, arweinydd addysg Cabinet Cyngor Gwynedd, yr adroddiad ymgynghori statudol i Gabinet Gwynedd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 24).

Roedd yr ysgol yn ardal Eifionydd yn Llŷn yn cael ei hystyried fel un sydd mewn “ardal o arwyddocâd ieithyddol”, gyda thua 70% o’r bobol yn siarad Cymraeg.

Galwodd Beca Brown ar y Cyngor i gytuno i gyflwyno cais busnes i Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd fod ceisiadau tebyg wedi’u cyflwyno gan Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Llanllechid hefyd.

Gofynnwyd i’r Cabinet hefyd ystyried y sylwadau gafodd eu gwneud yn ystod ymgynghoriad statudol ar gynyddu’r capasiti yn Ysgol Chwilog.

“Yn bwysicach nag erioed, mae’r plant yn meddwl bod hyn yn beth gwych i Ysgol Chwilog,” meddai Beca Brown.

“Mae’n galonogol gweld ysgol bentref yn ffynnu yng nghanol cymuned Gymraeg lle mae dros 70% o drigolion yn siarad Cymraeg.

“Mae sicrhau bod pobol ifanc Ysgol Chwilog yn cael y cyfleoedd gorau i ffynnu a datblygu o fewn eu lleoliad addysgol yn bwysig, ac rydym yn falch iawn o allu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cynnydd yma.”

“Newyddion gwych”

“Mae hyn yn newyddion gwych i’n bröydd ac rydyn ni’n gweld y manteision mae cartrefi newydd yn eu cynnig wrth i deuluoedd ifanc Cymraeg ymgartrefu yn yr ardal,” meddai’r Cynghorydd Rhys Tudur, sy’n cynrychioli ward Llanystumdwy.

“Mae creu ysgol addas yn hanfodol i fodloni anghenion cynyddol y staff a’r plant.

“Rwyf wrth fy modd hefyd bod grant iaith Gymraeg i gyflogi athro ychwanegol yn Ysgol Chwilog wedi ei gytuno, gan sicrhau fod y staff a’r disgyblion presennol yn cael eu cefnogi ymhellach wrth i’r ysgol dyfu.”

Fel rhan o’r rhybudd statudol, bydd y cyhoedd yn cael 28 diwrnod i wneud sylwadau ar unrhyw newidiadau, a bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei ystyried ym mis Ebrill.