Mae pymtheg o fentrau cymunedol lleol wedi dod at ei gilydd dan faner Cwmni Bro Ffestiniog, cwmni cymunedol sy’n hybu cydweithrediad rhwng y mentrau, meithrin mentrau cymdeithasol newydd, a gweithio gyda busnesau preifat bach sydd wedi’u hangori yn y gymuned, yn ogystal â gyda llywodraethau. Yma, mae Selwyn Williams o Gwmni Bro Ffestiniog yn cynnig syniadau ar gyfer trafod a gweithredu cymunedoli yng Nghymru. Y nod ydy gweld sut y byddai’n bosib ymestyn y model o ddatblygu cymunedol dros Gymru. 


Roedd Blaenau Ffestiniog yr ail dref fwyaf yng ngogledd Cymru yn 1900, gyda phoblogaeth o ryw 13,000 ond wrth i’r diwydiant llechi edwino, roedd y boblogaeth wedi mwy na haneru erbyn y flwyddyn 2000. Erbyn heddiw, mae Bro Ffestiniog yn un o’r ardaloedd tlotaf yn economaidd ym Mhrydain. Er y dad-ddiwydiannu, mae’r etifeddiaeth ddiwylliannol yn goroesi i raddau helaeth ac yn gynsail i’r model o ddatblygu cymunedol sy’n arloesi yn yr ardal heddiw.

Mae’r profiad o ddatblygu cymunedol ym Mro Ffestiniog yn tanlinellu potensial datblygu cymunedol yn y cyfnod presennol. Mae’n ymddangos bod mwy o fentrau cymunedol y pen yn yr ardal nag yn unrhyw le arall yng Nghymru, a phymtheg ohonyn nhw’n dod ynghyd dan ymbarél Cwmni Bro Ffestiniog.

Mae gweithgareddau amrywiol y mentrau hyn yn cynnwys rhedeg dau westy, siopau, bwytai, canolfan dwristiaeth, canolfan hamdden, canolfan celf a chrefft, beicio mynydd, manwerthu, garddwriaeth, darparu rhandiroedd, gwaith addysgol a diwylliannol, opera, gwaith amgylcheddol, hybu arbed ynni, lleihau gwastraff bwyd, banciau bwyd, banciau coed tân, ailgylchu, glanhau afonydd, gwaith gydag oedolion gydag anghenion ychwanegol, gwaith gydag ieuenctid yn cynnwys ynglŷn â digartrefedd, a dysgu siliau amgylcheddol a chyfryngol.

Rhyngddyn nhw, mae aelodau’r Cwmni Bro yn cyflogi tua 150 o bobol, ac mae wedi’i ddangos bod yr incwm, i raddau helaeth, yn aros a chylchdroi a lluosogi o fewn yr ardal. Am bob punt sy’n cael ei derbyn fel grantiau neu fenthyciadau, mae 98 ceiniog yn cael ei wario’n lleol, yn bennaf ar gyflogau.

Rydyn ni o’r farn bod y model hwn o ddatblygu cymunedol yn cynnig patrwm y byddai modd i gymunedau eraill ei efelychu. Buasai addasu a mabwysiadu’r model hwn ar draws Cymru â’r potensial i drawsnewid ein cymunedau a’n heconomi. Cafwyd ymweliadau ac roedd cyngor wedi’i roi i fentrau cymunedol ym Môn a arweiniodd at sefydlu’r rhwydwaith Bro Môn. Cafodd rhwydwaith tebyg ei sefydlu ym Mhenfro dan arweiniad Planed. Mae camau wedi’u cymryd yn ddiweddar i sefydlu rhwydwaith mentrau cymunedol Gwynedd, sy’n dod â bron ddeugain o fentrau cymunedol at ei gilydd. Mae bwriad hefyd i sefydlu Rhwyd i ddod a mentrau cymunedol sy’n gweithredu yn y Gymraeg ar draws Cymru at ei gilydd i gydweithio.

Buasai lledaeniad y model ar draws Cymru gyfan yn trawsnewid y wlad, ac i hyn ddigwydd mae rôl Llywodraeth Cymru yn allweddol. Fel y cam cyntaf, mae awgrym i Lywodraeth Cymru gydweithio gyda mudiadau cymunedol sydd â phrofiad o fabwysiadu’r model i ddyfeisio a chefnogi rhaglen i ledaenu’r model. I ddechrau, buasai modd peilota hyn mewn nifer o gymunedau fel eu bod nhw wedyn yn dod yn esiamplau i gymunedau eraill ac felly, gam wrth gam, buasai modd hyrwyddo rhaglen genedlaethol.

Chwyldro hirdymor

Mae dadansoddiad o incwm a gwariant mentrau cymunedol sy’n aelodau o Gwmni Bro Ffestiniog yn dangos bod canran uchel o’u hincwm yn aros yn y gymuned ar ffurf cyflogau a gwariant ar nwyddau a gwasanaethau lleol. Mewn geiriau eraill, mae cyfran uchel o’r incwm sy’n cael ei gynhyrchu gan fentrau megis rhai yn y maes twristiaeth gymunedol yn aros yn y gymuned. Mae hyn yn groes i’r sefyllfa yn achos corfforaethau a chwmnïau mawr preifat.

Mae amcangyfrifon fod twristiaeth yn creu incwm o £17m y dydd ar gyfartaledd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, cwmnïau mawrion allanol sy’n derbyn y rhan fwyaf o’r incwm ac mae arian yn llifo allan o’r cymunedau sy’n rhedeg y cyfleusterau ac adnoddau ar gyfer twristiaid.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ffafrio’r cwmnïau mawrion sydd gan amlaf â’u pencadlysoedd wedi’u lleoli tu allan i Gymru. Un enghraifft yw Surf Snowdonia, yr Adrenaline Indoor Facility a’r Hilton Garden Inn Hotel ar hen safle’r gwaith Alwminiwm yn Nolgarrog yn Nyffryn Conwy. Derbyniodd y rhain gefnogaeth hael gan Lywodraeth Cymru, mwy na £7.9m. Llynedd, gwnaethon nhw £1.82m o golled, ac fe fuon nhw yn galw am help llywodraeth oherwydd ‘unexpected costs’. Mae’n amlwg bod cwestiynau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylfaenol ynglŷn â’r holl fenter. Yn amgylcheddol, yr holl ddefnydd o drydan i greu tonnau, y colledion ariannol, y modd y cafodd gweithwyr eu trin a chyndynrwydd y cwmni i ddefnyddio’r Gymraeg ar arwyddion. Mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â pholisïau Llywodraeth Cymru o roddi cymhorthdal hael i gwmnïau preifat mawr ar draul cefnogi mentrau cymunedol, ac o ran hynny, mentrau preifat llai a chanolig.

Cyfalaf, cymuned a llywodraeth

Mae Raymond Williams yn cynnig fframwaith i edrych ar y berthynas rhwng cyfalaf, cymuned a llywodraeth. Mae cyfalaf cyllidol, sy’n cael ei gysylltu â’r Ddinas yn Llundain, yn chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi er mwyn creu enillion i gyfalaf drwy’r amser. Cyfalaf preifat yn gaeth i dwf parhaol sy’n amgylcheddol anghynaladwy. Er enghraifft, mae’r corfforaethau twristiaeth preifat yn alldynnu’r hyn sydd dros ben, ar ffurf elw.

Mae fframwaith ddeallusol Raymond Williams yn allweddol i ddadansoddi a deall ein hanes yng Nghymru. Llafuriodd y Cymry mewn diwydiannau megis glo, llechi, haearn, dur, amaeth ac ati gan gynhyrchu cyfoeth gafodd ei echdynnu gan gyfalaf, gan adael ein cymunedau ymysg y tlotaf yn Ewrop. Proses gafodd ei hwyluso ac sy’n cael ei hwyluso heddiw gan Lywodraeth gyfalafol yn Llundain sy’n bodoli’n bennaf i wasanaethu’r Ddinas sydd, yn ei thro, yn noddi’r Blaid Dorïaidd. Elw ar gefn llafur y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth.

Mae Cwmni Bro Ffestiniog, yn ei ffordd fach ei hun, yn cynnig model integredig o ddatblygu cymunedol sy’n gweu trwy’i gilydd elfennau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar gymuned ynghyd â mabwysiadu egwyddorion ac ymarfer yr economi sylfaenol. Pe buasai’r model yn cael ei addasu a’i fabwysiadu gan gymunedau ar hyd a lled Cymru, a phe buasai llywodraeth ganolog a lleol yng Nghymru yn blaenoriaethu cefnogaeth i gymunedau yn hytrach na chyfalaf corfforaethol, buasai modd dechrau trawsnewid cymunedau ac economi ein gwlad.

Ystyrier bod pob ased dan berchnogaeth y gymuned yn amddifadu cyfalaf cyllidol y Ddinas rhag modd i gronni cyfalaf, hynny yw rhag ymelwa ac ychwanegu at gyfalaf cyllidol. Mae’r persbectif hwn yn gwyrdroi’r ffordd geidwadol o weld y berthynas rhwng y Ddinas a Chymru; yn hytrach na gweld Cymru’n ddibynnol ar Lundain, y metropolis sy’n dibynnu ar Gymru fel un rhan o’r byd i’w ddefnyddio i gronni elw a chyfalaf preifat. Mae perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol ar gyfalaf yn amddifadu’r Ddinas ddibynnol yn Llundain. Mwy na hynny, mae perchnogaeth gymdeithasol ar yr economi yn sail annibyniaeth a rhyddid go iawn i Gymru.