Mae mam Logan Mwangi wedi colli cais i apelio yn erbyn dedfryd o oes o garchar am ladd ei mab bach pump oed.

Cafodd Angharad Williamson o ardal Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr ei charcharu am oes y llynedd.

Cafwyd ei phartner John Cole a’i lysfab e, Craig Mulligan, yn euog o lofruddiaeth hefyd ar ôl i’r tri achosi anafiadau a dioddefaint meddyliol i’r bachgen bach cyn ei farwolaeth.

Fe wnaeth y tri gynllwynio i gelu ei farwolaeth hefyd, gan honni ei fod e ar goll.

Mewn gwirionedd, roedden nhw wedi gadael ei gorff yn yr afon ger eu cartref.

Apêl

Roedd disgwyl i Angharad Williamson apelio yn erbyn ei dedfryd ar sail yr honiad fod y barnwr yn yr achos wedi diystyru tystiolaeth am gymeriad John Cole ar gam.

Roedd hi’n dadlau y byddai hynny wedi codi amheuon am gymeriad ei phartner ac am bwy oedd wedi achosi niwed corfforol i Logan Mwangi.

Penderfynodd y barnwr yn yr achos na fyddai’r llys yn cael clywed am honiadau o drais yn erbyn Angharad Williamson a dau o gyn-bartneriaid John Cole, yn ogystal â honiadau o hiliaeth.

Roedd yr honiadau o hiliaeth yn berthnasol gan fod Logan Mwangi yn hil-gymysg, ond penderfynodd y barnwr fod y ffaith fod John Cole wedi bod yn aelod o grwpiau a phlaid hiliol yn y gorffennol pell yn amherthnasol.

Mae John Cole wedi’i garcharu am 29 mlynedd.