Mae pryder am ddyfodol swyddi 300 o weithwyr mewn ffatri brosesu cig yn Llangefni, Ynys Môn.

Mae’r perchnogion, y cwmni 2 Sisters Food Group, yn argymell cael gwared ar un o’r ddwy linell gynhyrchu yn y ffatri – ac fe fyddan nhw’n cychwyn ymgynghori ar y cynllun heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod torri ar y cynhyrchu yn Llangefni yn ffordd o “symleiddio” eu busnes, a chadarnhaodd y gallai swyddi gael eu colli o ganlyniad.

Mae tua 700 o bobl yn gweithio yn y ffatri ar y stad ddiwydiannol yn y dref ers i ail shifft gychwyn yno yn 2013.

Ar ôl cyfnod o ymgynghori, mae disgwyl i’r cwmni wneud penderfyniad terfynol y mis nesaf.

Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Ieuan Williams ar raglen Dylan Jones y bore ma bod y newyddion wedi bod yn “sioc enfawr”.