Cameron Comey
Bydd y gwasanaethau brys yn parhau gyda’r chwilio am y bachgen 11 oed, Cameron Comey, o Gaerfyrddin heddiw, saith diwrnod wedi iddo ddiflannu.

Daeth mwy na 300 o bobl i wylnos neithiwr ger Pont King Morgan, ac roedd hynny’n dilyn gwasanaeth arbennig  yn Eglwys San Pedr y dref nos Wener.

Mae disgwyl i tua 50 o aelodau o’r gwasanaethau brys gymryd rhan yn y chwilio unwaith eto yn ystod y dydd heddiw, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, badau achub a thimau achub mynydd.

Cafodd Cameron Comey ei weld y tro diwetha’ yn chwarae gyda’i frawd ger yr afon yn ardal Tanerdy ger Caerfyrddin toc cyn 4 o’r gloch ddydd Mawrth.

Mae’r heddlu wedi apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ger yr afon rhwng 2 a 4 brynhawn dydd Mawrth ac sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.