Fe gipiodd
Eddie Redmayne
yr Oscar am yr actor gorau neithiwr am ei berfformiad fel yr Athro Stephen Hawking yn y ffilm The Theory Of Everything, gan guro enwau mawr fel Bradley Cooper a Benedict Cumberbatch.
Cafodd y wobr am yr actores orau i Julianne Moore am ei rhan yn chwarae dynes sy’n dioddef o Alzheimer’s yn Still Alice.
Llwyddiant mawr y noson oedd Birdman, wnaeth ennill y ffilm orau, y sgript ffilm wreiddiol orau a’r cyfarwyddwr gorau i Alejandro G Inarritu.
Enillodd Patricia Arquette y wobr am yr actores gynorthwyol orau am ei rôl yn Boyhood ac aeth JK Simmons a’r wobr am yr actor cynorthwyol gorau am ei ran yn y ffilm Whiplash.
Cafodd yr Oscars eu cynnal yn Theatr Dolby yn Los Angeles a chyflwynydd y noson eleni oedd Neil Patrick Harris – seren y rhaglen gomedi How I Met Your Mother.
Aeth yr Oscar am gân wreiddiol orau i Glory am un o’r caneuon yn y ffilm am Martin Luther King – Selma.
Aeth Graham Moore a’r Oscar am y sgript sydd wedi’i addasu orau am The Imitation Game ac enillodd Citizenfour y wobr am y ffilm ddogfen orau.
Methodd y Grand Hotel Budapest i ennill unrhyw un o’r gwobrau mawr, ond fe aeth y ffilm a nifer o wobrau gan gynnwys dylunio gwisgoedd, colur a gwallt a dylunio’r chynhyrchu oedd yn golygu bod merch o Ddolwyddelan yn Sir Conwy – Annie Atkins oedd yn gyfrifol am waith graffeg ar y ffilm – yn llwyddiannus ar y noson.
Cafodd yr Oscar am y ffilm orau mewn iaith dramor ei gyflwyno i’r ffilm Pwyleg, Ida, tra enillodd Mat Kirkby o Lundain yr Oscar am y ffilm fer orau.
Aeth yr Oscar am gymysgu sain i Whiplash, ac enillodd American Sniper yr Oscar am y golygu sain gorau.