Mae digwyddiad i drafod poblogaethau adar brodorol Cymru a sut i ofalu amdanyn nhw’n dechrau heddiw (dydd Gwener, Chwefror 3).

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru ymhlith y mudiadau fydd yn rhan o sesiynau gwybodaeth gyda’r Game and Wildlife Conservation Trust ar ffermydd yng Nghymru.

Ymhlith y digwyddiadau fydd yn rhan o’r digwyddiad ehangach hefyd mae taith gerdded o amgylch fferm.

Mae’r fenter yn cynnig dull syml o gofnodi effaith unrhyw gynlluniau cadwraeth newydd gan ffermwyr a cheidwaid tir.

Digwyddiadau

Eisoes yr wythnos hon, mae digwyddiad wedi’i gynnal yn Nantmor yng Ngwynedd ddydd Mercher (Chwefror 1).

Fe fydd digwyddiad arall heddiw ar New Shipping Farm yng Nghilgeti yn Sir Benfro.

“Nod Cyfrif Mawr Adar Ffermdir GWCT yw codi ymwybyddiaeth o’r gwaith cadwraeth gwych sy’n cael ei wneud ar ffermydd ledled Cymru,” meddai Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae’n amlygu’r hyn y gellir ei wneud i helpu adar ffermdir i oroesi’r amser anodd hwn o’r flwyddyn fel bod y poblogaethau bridio yn cynyddu.

“Rwy’n edrych ymlaen at y sesiynau gwybodaeth ar y fferm sydd wedi’u trefnu a fydd yn ein helpu i ddeall pwysigrwydd cofnodi’r adar hynny sy’n bresennol ac adnabod pa effeithiau y mae Glastir – cynllun amaeth-amgylcheddol Cymru – yn ei gael ar niferoedd adar.”

‘Gweithio gyda ffermwyr sydd eisiau gwneud mwy’

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb Amaethwyr Cymru i drafod Cyfrif Mawr Adar Ffermdir 2023, sydd yn ei degfed flwyddyn, yn denu dros 1500 o ffermydd i gymryd rhan,” meddai Lee Oliver, Pennaeth Prosiectau GWCT Cymru.

“Hoffem dynnu sylw at y gwaith da mae ffermwyr a ffermio yn ei wneud yng Nghymru ar gyfer adar ffermdir, a hoffem weithio gyda ffermwyr sydd eisiau gwneud mwy.”