Doedd cleifion yn Adran Achosion Brys un o ysbytai’r gogledd ddim yn cael gofal diogel yn gyson, er gwaethaf ymdrechion staff, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw (dydd Gwener, Chwefror 3) yn nodi’r heriau sy’n wynebu’r adran yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ar ôl cwblhau arolygiad di-rybudd am dri diwrnod fis Awst y llynedd, daeth yr arolygiaeth i’r casgliad fod y pwysau a’r heriau yn yr adran yn arwain at gynnydd mewn risg i’r cleifion.

Gwelodd yr arolygwr fod rhai o’r cleifion wedi aros dros 16 awr i weld meddyg.

Er bod system ar waith er mwyn helpu i ganfod dirywiad yn nghyflwr cleifion, doedd hynny ddim yn digwydd yn ddigon aml bob tro.

Yn ystod yr arolygiad, roedd dau achlysur pan ddylai cleifion oedd yn cyrraedd gyda symptomau sepsis fod wedi cael eu huwchgyfeirio yn gyflymach.

Er bod pawb yn ymdrechu i frysbennu cleifion oedd yn cyrraedd mewn ambiwlansys, roedd nifer fawr o gleifion a diffyg lle yn yr ardal aros, meddai’r arolygiad.

Roedd y cleifion yn feirniadol o’r amseroedd aros a chawson nhw mo’u diweddaru ar yr amseroedd aros yn dda, na chael gwybod ble roedden nhw yn y ciw i gael eu gweld.

Unwaith roedd cleifion yn cael eu gweld, roedden nhw’n canmol y staff, a gwelodd yr arolygwyr staff cyfeillgar a phroffesiynol drwy’r adran oedd yn dangos ymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Roedd y prif ardaloedd i’w gweld yn lân a thaclus, a’r toiledau a dolenni drysau’n cael eu glanhau’n rheolaidd.

Roedd y mesurau atal a rheoli heintiau yn gadarn hefyd, meddai.

‘Anodd bodloni’r galw’

Dywed Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ei bod hi’n anodd bodloni’r galw wrth gynnal diogelwch cleifion.

“Mae’r pwysau ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i fod yn uchel iawn ac fel mewn arolygiadau eraill o Adrannau Achosion Brys rydym wedi eu cynnal, gwelsom dystiolaeth unwaith eto yn Ysbyty Maelor Wrecsam o wasanaeth sy’n ei chael hi’n anodd bodloni’r galw wrth gynnal diogelwch y cleifion,” meddai.

“Er fy mod yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff sy’n gweithio’n ddiflino yn y gwasanaeth, mae ein hadroddiad yn nodi argymhellion penodol y mae angen i’r bwrdd iechyd ymdrin â nhw yn ddi-oed er mwyn gwella’r gwasanaeth.

“Mae hefyd yn bwysig iddynt barhau i geisio datrysiadau er mwyn rheoli heriau parhaus â llif cleifion.

“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.”

Mae’r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun sy’n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.