Byddai gweithwyr iechyd yn cael y codiad cyflog cyntaf mewn termau real ers dros ddegawd dan gynllun newydd sy’n cael ei gynnig gan Blaid Cymru.

Mae codiad cyflog tecach i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, isafswm cyflog o £12 yr awr i weithwyr gofal, a phecyn cymorth ariannol i’r rhai sydd mewn mwyaf o angen yn rhan o gynnig y blaid.

Daw’r cynigion yn sgil streicio parhaus gan weithwyr y sector cyhoeddus, a’r anghydfod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cyflogau.

Byddai’r arian ychwanegol yn cael ei godi drwy amrywio’r gyfradd dreth, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

‘Argyfwng’

Cyn y ddadl ar gyllideb Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf, a gwelliant Plaid Cymru i’r gyllideb hwnnw hefyd, dywed Adam Price “na all Llafur ddweud yn onest eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal pan eu bod hyd yma wedi gwrthod defnyddio’r pwerau treth sydd ar gael”.

Byddai gofyn i’r rhai sy’n gallu cyfrannu mwy o dreth wneud hynny yn ffordd o greu refeniw ychwanegol i ariannu pecynnau cymorth i’r rhai sydd mewn trafferth yn sgil yr argyfwng costau byw hefyd, meddai.

“Mae ein gwasanaeth iechyd mewn argyfwng, mae gweithwyr ar streic, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod gweithredu.

“Mae tair blynedd ar ddeg o doriadau’r Torïaid a phum mlynedd ar hugain o gamreoli gan y Blaid Lafur wedi gadael ein gweithwyr iechyd a gofal heb obaith, wedi blino’n lân ac yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd.

“Mae cynigion Plaid Cymru yn cynnig ffordd ymlaen. Gan ddefnyddio’r pwerau treth sydd gennym yma yng Nghymru, gallem gynhyrchu £317m ychwanegol i gynnig cyflog tecach i weithwyr y GIG a darparu £12 yr awr i weithwyr gofal fel isafswm.

“Bydd cyflog teg i nyrsys yn golygu chwarae teg i gleifion a byddai’n arwydd o fuddsoddiad gwirioneddol yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, gan ei roi ar sylfaen gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

“Ni all Llafur ddweud yn onest eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal pan eu bod hyd yma wedi gwrthod defnyddio’r pwerau treth sydd ar gael iddynt.”

Byddai codi mwy o dreth ar y rhai mwyaf cefnog yn caniatáu i Lywodraeth Cymru greu Cronfa Undod Cymreig, a allai helpu i ymestyn prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd ar gyfer teuluoedd sy’n derbyn credyd cynhwysol, cefnogi pobol sy’n cael trafferth talu eu morgeisi, neu gynyddu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) i helpu pobol ifanc i barhau â’u haddysg, meddai.

“Os yw Llafur yn honni mai nhw yw plaid y gweithwyr, fe fyddan nhw’n barod felly i gefnogi ein gwelliant i’r Gyllideb, ac os ydyn nhw’n wirioneddol credu mewn system drethiant deg, fe fyddan nhw’n ymuno â ni i fynnu’r pwerau i osod ein bandiau treth ein hunain yn union fel yr Alban, yn hytrach na chael ei rheoli gan San Steffan.”

‘Camreolaeth’

Wrth ymateb i’r cynllun, dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur yn “glymblaid heb yr enw”.

“Os nad oes ganddyn nhw ffydd yng ngweinidogion Llafur yn y Senedd, yna bydden nhw’n stopio’u cynnal nhw,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.

“Yn hytrach, maen nhw’n trio cael popeth da sy’n dod o lywodraethu heb gymryd y cyfrifoldeb.

“Dan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, mae Cymru’n cael £1.20 am bob £1 sy’n cael ei gwario yn Lloegr.

“Mae’r arian yma, ond mae camreolaeth Plaid a Llafur yn golygu bod Cymru a’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn colli allan.”