Mae pris pasbort newydd yn codi heddiw (dydd Iau, Chwefror 2), ac mae’r arbenigwr ariannol Martin Lewis yn rhybuddio pobol i wirio faint o amser sydd ganddyn nhw ar eu pasbort cyfredol.
Ond beth yw’r prisiau newydd, a sut mae’r drefn newydd am effeithio ar bobol o Gymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig sydd eisiau teithio dramor?
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod…
Prisiau – hen a newydd
Yn ôl Martin Lewis, fe fydd y gost o adnewyddu pasbort yn cynyddu gan oddeutu 9% o heddiw.
Fe fu’n rhaid i bobol dalu £75.50 i adnewyddu eu pasbort ar y we cyn heddiw, ond mae’r gost bellach wedi codi i £82.50 i oedolion.
£49 oedd y pris i blant cyn hyn, ac mae’r gost honno wedi codi i £53.50 heddiw.
I adnewyddu pasbort oedolyn ar bapur, roedd yn arfer costio £85, ond mae hi bellach yn costio £93, tra bod y gost i blant wedi codi o £58.50 i £64.
Mae modd manteisio ar wasanaeth adnewyddu cyflym, sy’n cymryd wythnos yn unig, ac mae cost y gwasanaeth hwnnw wedi codi o £142 i £155 i oedolion, ac o £122 i £126 i blant.
£193.50 yw cost newydd gwasanaeth sy’n galluogi pobol i adnewyddu eu pasbort mewn diwrnod, yn hytrach na’r £177 blaenorol, a bydd pawb – oedolion a phlant – yn talu’r un pris.
Pam fod prisiau’n codi?
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, maen nhw wedi penderfynu codi prisiau er mwyn sicrhau mai pobol sy’n prynu pasbort sy’n talu amdanyn nhw.
Wrth godi prisiau, does dim rhaid i’r trethdalwr cyffredin dalu am y cynnydd os nad yw’n teithio.
Bydd yr arian ychwanegol yn mynd tuag at y gost o brosesu ceisiadau am basbort, gwasanaethau conswlaidd gan gynnwys ffioedd pasbort coll neu wedi’i ddwyn, a chost prosesu trigolion wrth y ffin.
Gwirio cyn teithio
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a Martin Lewis, yn rhybuddio y dylid gwirio faint o amser sydd yn weddill ar basbort cyn teithio.
Mae rhai cwmnïau awyr – gan gynnwys British Airways ac EasyJet – yn gofyn bod gan deithwyr o leiaf chwe mis ar ôl ar eu pasbort cyn bod modd teithio.
Mae hyn am fod gan bob pasbort rif gwahanol ac os yw rhywun yn dewis teithio yn y cyfnod rhwng dirwyn yr hen basbort i ben a derbyn pasbort newydd, mae’n bosib y gallai dogfennau teithio gynnwys yr hen rif wrth i deithwyr geisio defnyddio pasbort newydd â rhif cwbl wahanol arno.
Gall y broses o adnewyddu pasbort gymryd hyd at ddeg wythnos, felly mae’n bwysig gadael digon o amser i’r broses gael ei chwblhau fel bod y dogfennau cywir yn eu lle cyn teithio.
Ble mae gwneud cais?
Mae modd gwneud cais am basbort newydd drwy fynd i wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gwirio’r rheolau newydd drwy fynd i’r dudalen ffïoedd.