Mae Arfon Jones yn dweud mai unig ganlyniad ymgais yr heddlu i gau ffatrïoedd canabis i lawr yw agor ffatrïoedd mewn mannau eraill, ac mae’n dadlau y dylid cyfreithlonni’r cyffur ac nid erlyn pobol.

Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd wedi bod yn siarad â golwg360 ar ôl i ddau ddyn o Albania fynd gerbron llys yr wythnos hon, wedi’u cyhuddo o gynhyrchu’r cyffur ym Mangor.

Cafodd Landi Ruci, sy’n 32 oed, ac Elidon Hodaj, sy’n 27 oed, eu cadw yn y ddalfa ar ôl bod gerbron ynadon Llandudno.

Dydyn nhw ddim wedi cyflwyno ple hyd yn hyn.

Byddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Caernarfon ar Fawrth 6.

Ond yn ôl Arfon Jones, mae erlyn pobol mewn perthynas â chanabis yn “pointless“.

Dydy Arfon Jones ddim yn credu bod yr heddlu yn arestio pobol am gyflenwi canabis fel digwyddodd ym Mangor yn gwneud lles gan fod yna ragor o bobol ar eu holau nhw’n gwerthu’r cyffur beth bynnag.

“Rwy’n meddwl fod ymgyrchoedd yr heddlu yn erbyn canabis yn gwneud fawr o wahaniaeth,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n meddwl y byddai llawer llai o droseddu, llawer llai o drais [pe bai’n cael ei gyfreithlonni].

“Mae yna drais yn amlwg efo delio cyffuriau yn y wlad yma.

“Rŵan mae’r ffatri canabis yma ym Mangor wedi cael ei chau lawr, be’ fydd nesaf fydd ffatri canabis arall yn tyfu yn rhywle arall.

“Bydd pobol yn ymladd dros yr hawl i wneud arian allan ohono fo.

“Bob tro mae’r heddlu yn llwyddiannus yn cau busnes cyflenwi cyffuriau i lawr, mae yna lawer o drais.

“Unwaith mae’r heddlu yn llwyddiannus efo cau lawr cyflenwi unrhyw gyffur, mae yna gystadleuaeth wedyn rhwng grwpiau eraill i gymryd drosodd ganddyn nhw.

“Yr unig beth mae o’n gwneud ydy ei gau lawr am ychydig oriau nes bod rhywun arall yn dod mewn, felly mae o’n gwbl pointless.”

Problemau cymdeithasol

Prin yw’r bobol sy’n defnyddio canabis sy’n achosi problemau cymdeithasol, yn ôl Arfon Jones, sy’n dweud nad yw defnyddio’r cyffur yn niweidiol i neb ond y person sy’n ei ddefnyddio gan amlaf.

“Mae canabis llawer llai niweidiol nag alcohol, ac mae alcohol wedi’i gyfreithlonni,” meddai.

“Yn amlwg, fel pob cyffur arall, mae’n effeithio ar rai pobol yn wahanol i bobol eraill.

“Mae yna rai pobol yn erbyn ei gyfreithlonni oherwydd ei fod yn achosi problemau iechyd meddwl.

“Fel bob dim arall, mae alcohol yn achosi problemau iechyd meddwl ac mae hwnna’n gyfreithlon, felly dydw i ddim yn meddwl ei bod yn ddadl yn erbyn.

“Rwy’n meddwl y dylai canabis gael ei gyfreithlonni oherwydd mae’r dystiolaeth bod canabis yn gwneud drwg i bobol unigol yn wan iawn.

“Dydw i ddim yn gweld pam bod angen cyfreithiau yn ei erbyn o le mae o’n llai niweidiol nag alcohol.”

Agor y drws i gyffuriau eraill?

Oherwydd y byddai cyfyngiadau oed ar y bobol fyddai’n gallu prynu’r cyffur, dydy Arfon Jones ddim yn credu y byddai gan lawer o bobol ifanc fynediad ato.

Ac o edrych ar wledydd eraill yn y byd, mae’n credu bod y dystiolaeth yn dangos bod llai o bobol yn ei ddefnyddio mewn gwledydd ble mae’n gyfreithlon.

“Unwaith y bydd yn cael ei gyfreithlonni, bydd yn cael ei werthu’n gyfrifol fel mae alcohol yn cael ei werthu,” meddai.

“Fydd gan bobol ifanc ddim gymaint o allu i gael gafael arno fo.

“Rydym yn gweld yn America rŵan bod yna lai o ddefnydd o ganabis gan bobol ifanc mewn taleithiau fel Colorado ddaru ei gyfreithlonni fo gyntaf.”

Mae Arfon Jones hefyd yn wfftio’r ddadl fod canabis yn “gateway drug” sy’n arwain at ddefnyddio cyffuriau cryfach, mwy peryglus.

“Mae pobol yn dweud bod yna gysylltiad rhwng canabis a chyffuriau eraill,” meddai.

“Yr unig gysylltiad ydy mai’r un un bobol sy’n eu delio nhw.

“Y gateway drug fel arfer ydy sigaréts neu alcohol, a ddim canabis.

“Mae yna lawer o bobol yn defnyddio cyffuriau, maen nhw’n cymryd canabis, maen nhw’n cymryd cocên a hyn i gyd.

“Yn bersonol dwi ddim yn meddwl bod canabis yn gateway drug fy hun.”

30% o bobol yn ei ddefnyddio

Yn ôl Arfon Jones, mae nifer fawr o bobol sy’n defnyddio canabis yn bobol sydd â “swyddi cyfrifol iawn” ac sy’n flaenllaw yn eu cymunedau sydd ddim yn niweidio unrhyw un wrth ddefnyddio’r cyffur.

“Maen nhw wedi bod yn cymryd canabis ers blynyddoedd,” meddai.

“Mae yna 30% o bobol yn y wlad yma’n defnyddio canabis rhwng 18 a 59 oed.

“Mae hynny yn andros o lot o bobol, mae’n filiynau o bobol.

“Dydyn nhw ddim yn gwneud drwg i neb.

“Hwyrach eu bod nhw’n gwneud drwg i’w hunain yn smocio canabis, ond dydyn nhw ddim yn gwneud drwg i neb arall.”