Fe wnaeth cwmni olew a nwy Shell wneud mwy o elw nag erioed llynedd wedi ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Mae hi’n “gwbl ffiaidd” nad ydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu’n llymach yn erbyn cwmnïau fel Shell sy’n elwa’n sgil y rhyfel, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Fe wnaeth Shell elw o £32.2 biliwn yn 2022, dwbl faint wnaethon nhw yn 2021 a’r cyfanswm uchaf ers iddyn nhw ffurfio 115 o flynyddoedd yn ôl.
Wrth i gyfnodau clo Covid ddod i ben, fe wnaeth prisiau ynni ddechrau codi’n araf deg ond bu cynnydd sydyn ym mis Mawrth y llynedd yn sgil pryderon am y cyflenwad wedi’r ymosodiad ar Wcráin.
Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi treth ffawdelw ar elwon cwmnïau er mwyn ariannu cynlluniau i leihau biliau ynni a thrydan.
Roedd Shell wedi dweud nad oedden nhw’n disgwyl talu unrhyw dreth yn y Deyrnas Unedig eleni, ond heddiw (Chwefror 2) dywedodd y cwmni bod disgwyl iddyn nhw dalu £108 miliwn mewn treth ffawdelw ar gyfer 2022. Maen nhw hefyd yn disgwyl talu mwy na £406 miliwn ar gyfer 2023.
‘Methu gweithredu’n briodol’
Wrth ymateb dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: “Tra bod y cwmnïau hyn yn gwneud elwon anferthol, mae teuluoedd a busnesau lleol yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd.
“Yn fy rhanbarth i yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydyn ni wedi gweld nifer o fusnesau lleol yn cau eu drysau yn sgil costau ynni cynyddol.
“Y busnesau hyn yw calon ein dinasoedd, trefi a phentrefi, ac maen nhw hefyd yn cynnal nifer uchel o swyddi, gyda Chymru’n fwy dibynnol ar Fusnesau Bach a Chanolig nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.
“Pe bai’r Ceidwadwyr yn cyflwyno treth ffawdelw go iawn ac yn cau bylchau, gallai’r arian ychwanegol gael ei ddefnyddio i ymestyn y cymorth ar gyfer y busnesau hyn, cymorth sydd fod i ddod i ben ym mis Ebrill.
“Fe wnaeth Rishi Sunak fethu â gweithredu’n briodol yn erbyn cwmnïau ynni pan oedd yn Ganghellor, a nawr mae e’n methu fel Prif Weinidog.
“Rhaid i’r Ceidwadwyr newid eu ffordd a threthu cwmnïau olew a nwy yn iawn ar unwaith, ac o leiaf gwneud yn siŵr nad yw biliau ynni’n codi eto ym mis Ebrill.”