Mae’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) wedi lansio adroddiad ar sut mae rhoddion o Gymru wedi rhoi cymorth hanfodol i bobol sy’n byw yn Wcráin.

Mae ymateb hael y rhoddwyr yn golygu bod Apêl Ddyngarol Wcráin bellach wedi codi £14.7 miliwn yng Nghymru a thros £400 miliwn ar lefel y Deyrnas Unedig.

Ers i’r gwrthdaro yn Wcráin ddechrau bron i flwyddyn yn ôl, mae elusennau DEC wedi rhoi cymorth hanfodol i filiynau o bobl mewn angen, yn Wcráin ac mewn gwledydd cyfagos.

Golyga hyn mai DEC yw’r elusen sydd wedi cyfrannu’r mwyaf o arian wrth ymateb i ryfel Wcráin, yn ôl Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gwasanaeth Olrhain Ariannol Cydlynu Materion Dyngarol (OCHA).

Roedd cymorth gan yr elusen yn cynnwys prosiectau i ddarparu bwyd i bobol yn ardaloedd y rhyfel, gan gynnwys 75,000 o becynnau trawma achub bywyd a 34 o grudiau cynnal (incubators) ar gyfer babanod gafodd eu geni’n gynnar.

Darparwyd generaduron trydan hefyd ar gyfer pobol mewn llochesi bomiau, a threfnwyd bod ffoaduriaid yn Wcráin a phobol sydd wedi cael eu dadleoli’n cael taliadau arian parod er mwyn gefnogi eu hanghenion.

‘Diolch’

“Mae’r argyfwng wedi bod mor enfawr, mor eang ac mor ddinistriol ein bod am gymryd yr amser i fanylu ar sut mae rhoddion wedi helpu gwahanol bobol ar bob cam o’r flwyddyn,” meddai Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru, Siân Stephen,

“Ac yn allweddol, mae lefel yr arian a godwyd yn golygu y gallwn barhau i ddarparu’r gefnogaeth honno, gan ein bod yn gwybod bod yr argyfwng hwn ymhell o fod drosodd gydag anghenion yn datblygu ac yn newid drwy’r amser wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

“Hoffwn ddiolch i bob un person sydd wedi rhoi, codi arian, cael eu cwmni neu eu sefydliad yn rhan o’r digwyddiad.

“Mae’r ymateb wedi bod yn wirioneddol ryfeddol ac rydym mor ddiolchgar am y gefnogaeth.”