Mae Pont y Borth wedi ailagor heddiw (dydd Iau, Chwefror 2) bron i bedwar mis ar ôl iddi gau am resymau diogelwch.
Yn ôl un o gynghorywyr ward Aethwy ar Ynys Môn, Dyfed Wyn Jones, mae hyn yn “gam ymlaen” ac yn “rhyddhad” i drigolion a busnesau lleol.
Cafodd y bont ei chau’n sydyn ddiwedd Hydref, gyda dim rhybudd i drigolion lleol, oherwydd bod angen gwneud gwaith brys arni.
Tra’r oedd y bont ar gau, roedd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Bont Britannia, ond achosodd hynny drafferthion i fusnesau a theithwyr yr ardal.
‘Cam ymlaen’
“Rhyddhad dw i’n meddwl ydi’r peth pwysicaf, ein bod ni’n gallu teithio arni,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Wyn Jones wrth golwg360.
“Dw i wedi teithio ar y ffordd bore yma, digwydd bod yn mynd â’r mab i’r ysgol, a wnes i sylweddoli’r gwahaniaeth yn syth.
“Doedd yna ddim ciwiau i weld yn mynd at Bont Britannia na chwaith at Bont Borth.
“Rydyn ni wedi disgwyl dipyn am hyn ac mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i drigolion lleol ac i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio ganddo fo.
“Mae o’n gam ymlaen ond yn amlwg mae yna waith pellach i’w wneud hefyd, felly’r flaenoriaeth fel cynghorydd lleol ydy gwneud yn siŵr bod y cynlluniau ar gyfer gwneud y gwaith parhaol ddim yn cael gormod o effaith – bod nhw’n rheoli traffig yn gall, a bod yna system mewn lle sydd ddim yn achosi mwy o drafferthion.
“Felly, dw i’n meddwl bod yna wên ar wynebau lot o bobol bore yma yn gallu croesi heb orfod eistedd yn segur yn eu ceir am amser hir.”
Cau’r bont a’r Nadolig yn effeithio busnesau
Bu bunesau Porthaethwy yn galw am gefnogaeth frys yn dilyn cau’r bont a gafodd effaith “ddinistriol” ar rai masnachwyr.
Mae Dyfed Wyn Jones yn gobeithio y bydd busnesau nawr yn prysuro unwaith eto.
“Dw i’n gobeithio bydd y busnesau lleol ym Mhorthaethwy, yn enwedig, yn dechrau gweld y gwahaniaeth rŵan o ran pobol yn dod yn ôl i ymweld.
“Roedd yna lot o fusnesau’n dweud bod pobol ddim wedi bod yn ymweld â nhw ond gobeithio bydd pobol yn gweld bod y bont ar agor ac yn dechrau dod yn ôl eto.
“Mae hi’n gyfnod anodd ar ôl mis Ionawr hefyd, tydi hynny ddim yn helpu busnesau gan fod pobol yn tueddu i fod yn fwy gofalus efo gwario ar ôl y Nadolig.
“Efallai bod hynny a bod y bont ar gau wedi cael effaith dwbl, mewn ffordd.”
Gwaith pellach
Un peth mae Dyfed Wyn Jones yn awyddus i ganfod yw sut wnaeth y sefyllfa gyrraedd pwynt ble roedd rhaid gwneud penderfyniad i gau’r bont o fewn ychydig o oriau.
“Dw i’n meddwl bod yna lot o gwestiynau i ofyn i’r cwmni sy’n gyfrifol a Llywodraeth Cymru o ran sut wnaethon ni gyrraedd yna a sut mae gwneud siŵr nad ydyn ni’n cyrraedd hynny eto.”
Mae Dyfed Wyn Jones a chynghorwyr eraill nawr yn disgwyl i glywed mwy am y gwaith sydd dal i’w wneud ar y bont, a phryd mae hynny’n debygol o ddigwydd.
“Y bwriad ydy gwneud y gwaith yna yn ystod 2023 ond mae angen caffael y darnau arbenigol ac ati ar draws y byd, fel dw i’n deall.
“Felly’r gobaith ydy efo’r gwaith yma bydd cerbydau mwy yn gallu teithio arni, ac mae hynny’n bwysig ar gyfer bysus.
“Er bod y bont wedi ailagor, mae’r bysus sy’n dod drosodd i’r ynys yn gorfod defnyddio Pont Britannia ac mae hynny’n dal i achosi ychydig bach o gur pen i lot o bobol.”
Trydedd bont?
Cwestiwn arall a gododd tra buodd y bont ar gau oedd a fyddai trydedd bont yn helpu ac yn bosibilrwydd.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod trydedd bont yn brosiect maen nhw’n edrych ar, felly fydd o’n ddifyr gweld be fydd parhad hwnnw,” meddai Dyfed Wyn Jones.
“Mae’r misoedd diwethaf wedi dangos pa mor ddibynnol ydyn ni ar y ddwy bont sydd gennym ni a phan mae rhywbeth yn digwydd mae’n achosi problemau mawr.
“Rydan ni’n gobeithio na fydd o’n cael ei anghofio gan fod y bont ar agor rŵan.
“Mae hi’n bwysig ein bod ni’n cadw hwnna’n uchel ar agenda Llywodraeth Cymru.”