Mae grŵp o bobol ar Ynys Môn wedi bod yn mynd allan i drin coedlannau er budd eu hiechyd a’u llesiant.

Yn ôl Vivienne Plank, sy’n arwain y cwrs gan fudiad Coed Lleol, mae’r gwaith yn golygu bod pobol yn dysgu mwy am goetiroedd a’r amgylchedd hefyd.

Nod Coed Lleol ydy gwella llesiant ac iechyd pobol dros Gymru drwy goedlannau a thrwy gynnal gweithgareddau ym myd natur.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar brysgoedio (coppicing), sef yr arfer o dorri coed yn agos i’w bôn bob hyn a hyn er mwyn eu hannog i dyfu.

Buddion i bobol

Mae’r cwrs chwe wythnos wedi’i dargedu at bobol sy’n gwella o salwch neu sydd â phroblemau llesiant.

“Mae’n bosib gwneud gweithgareddau fel hyn ar lefel gymdeithasol, felly mae’n wych ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol a phresgripsiynau gwyrdd,” meddai Vivienne Plank, sydd â blynyddoedd o brofiad yn y maes, wrth golwg360.

“Mae’n weithgaredd ysgafn, mae dod allan i’r coetir yn dda i iechyd a lles pobol.

“Maen nhw’n mynd am dro, maen nhw’n treulio’r diwrnod gyda’i gilydd yn sgwrsio o gwmpas y tân ac yn cael eu cinio.

“Gallan nhw weld beth maen nhw wedi’i wneud, ac maen nhw’n mynd i ffwrdd â theimlad eu bod nhw wedi cyflawni rhywbeth, a’u bod nhw wedi gwneud rhywbeth gwerthfawr.

“Mae’n fuddiol i’r coetiroedd, a byddai’n fuddiol i’r llywodraeth annog y broses reoli hon.

“Pan fydd pobol yn dod ar gwrs fel hwn, maen nhw’n dysgu gwerthfawrogi’r coetiroedd a’r amgylchedd.

“Gobeithio y byddan nhw’n mynd â rhywfaint o hwnnw i ffwrdd gyda nhw.”

Beth yn union yw prysgoedio?

Mae prysgoedio’n ffordd o reoli coed drwy eu torri yn y gwaelod, heb eu dadwreiddio, sy’n golygu bod mwy o sbrigau yn tyfu o’r bôn.

Roedd y dechneg yn cael ei defnyddio cyn belled yn ôl ag Oes y Cerrig, er mwyn cael coed tân yn wreiddiol.

Bellach, mae’n cael ei ddefnyddio i greu amrywiaeth o gynefinoedd ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt, ac er mwyn cynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau sydd mewn coetiroedd.

“Mae prysgoedio yn beth da iawn i natur a bioamrywiaeth,” eglura Vivienne Plank.

“Mae’n ddefnyddiol i fywyd gwyllt gan ei fod yn creu ardal fwy sydd wedi ei gorchuddio â dail fel y gall mwy o bryfed elwa ohono.

“Pan fydd y llywodraeth yn sôn am blannu coed, maen nhw’n plannu coed i ddal carbon.

“Dydych chi ddim lladd y coed; mae’r gwreiddiau yn dal yn y ddaear, maen nhw dal i ddal maeth, maen nhw dal i gynhyrchu’r dail, sy’n dal y carbon.

“Yn dibynnu ar y math o goeden, byddech yn eu gadael am nifer benodol o flynyddoedd ac yna byddech yn eu torri i lawr eto, a phob tro y byddwch chi’n ei wneud, rydych chi’n datblygu mwy a mwy o sbrigau.

“Pe baech chi’n rhannu coetir yn saith rhan, byddech yn prysgoedio un adran un flwyddyn, ardal arall y flwyddyn ganlynol, ac adran arall y flwyddyn wedyn, fel bod gennych chi goed o wahanol oedrannau.

“Mae’r coed i gyd yn wahanol uchderau, ac mae ganddyn nhw wahanol botensial ar gyfer bywyd gwyllt.

“Gall hyn hefyd ymestyn bywyd y goeden fel bod y coed yn gallu byw’n hirach os ydyn nhw’n cael eu prysgoedio’n rheolaidd ac yn derbyn gwaith cynnal a chadw oherwydd maen nhw’n tyfu sbrigau newydd bob tro rydych chi’n eu prysgoedio.

“Dydyn nhw ddim yn tyfu i uchder lle maen nhw’n cwympo, lle gall pydredd fynd mewn, fel eu bod yn y diwedd yn marw o ddifrod pydredd.”