Ar drothwy sesiwn fyfyrio arbennig yr wythnos nesaf, mae’r trefnydd yn dweud bod modd “cael cwestiwn wedi’i ateb” a’i bod hi’n “dda hefyd i symud emosiynau”.

Bydd sesiwn fyfyrio nesaf Meleri Bowen yn cael ei chynnal ar-lein nos Fawrth nesaf (Ebrill 4) am 8 o’r gloch.

Mae bod yn y presennol, yn y corff a thawelu’r meddwl yn hollbwysig i iechyd meddyliol, meddai, ac mae myfyrio yn helpu i’r perwyl hwn.

Yn ôl Meleri Bowen, mae croeso i bawb ac mae’r grŵp yn addas ar gyfer pawb.

Mae ei gwaith Cymraeg yn dod o dan ymbarél ICONIC, neu @iconiccymru ar Instagram, a’r hyn fydd hi’n ei gynnig a’i drafod yw hunan-werth, persbectif newydd a mynegi llais, a bydd hi’n cynnig gweithdai mentora hefyd.

“Pan mae rhywun yn cael cyfnod o dawelwch meddwl a rhoi amser i’w hunain, maen nhw’n rhoi amser i syniadau neu unrhyw beth sydd angen dod drwodd i ddod drwodd yn y cyfnod yna,” meddai wrth golwg360.

“Positifau myfyrio yw dy fod yn gallu dod ’nôl mewn i ryw fath o falans gyda thi dy hun.

“Dwed bo ti’n frazzled neu fod dy feddwl dros y lle i gyd, mae’r math o fyfyrio rwy’n gwneud yn dod â ti’n ôl.

“Mae’n dda ar gyfer diben arbennig.

“Ti’n gallu cael cwestiwn wedi’i ateb.

“Ti’n gofyn cwestiwn a gweld be ddeith lan, a gadael fynd a beth bynnag, ac fe ddeith yr ateb mewn i dy feddwl.

“Mae’n dda hefyd i symud emosiynau, i shifftio dy gyflwr emosiynol.

“Dwed bo ti ddim yn teimlo yn grêt ynot ti dy hun, bo ti’n frazzled fel wnes i sôn, mae’r math o fyfyrio rwy’n gwneud yn gallu shifftio’r emosiynau, rhyddhau emosiynau a gwneud i ti deimlo’n ysgafnach.”

Myfyrdod Somatig

Mae Meleri Bowen yn ymarfer myfyrdod somatig, ac mae’n helpu pobol i deimlo trwy eu cyrff.

“Mae yna wahanol fathau o fyfyrio,” meddai.

“Rydym yn defnyddio ein cyrff.

“Mae gwahanol rannau o fyfyrio lle rwy’n gofyn i’r bobol adref deimlo beth maen nhw’n teimlo.

“Fel yna y byddwn yn disgrifio fy sesiynau myfyrio.”

Dywed fod llawer o bobol yn meddwl yn hytrach na byw yn y corff, ond yn ôl Meleri Bowen mae myfyrio yn ein helpu ni ddod at ein hanfod.

“Yn bendant, mae pobol yn byw yn eu meddwl yn lle eu cyrff,” meddai.

“Rydym yn byw yn ein meddwl oherwydd ein bod yn meddwl beth sydd gennym i’w wneud nesaf, beth yw’r to-do list.

“Os wyt ti’n rhiant, rwyt ti’n meddwl am dy blentyn, beth sydd gyda ti i’w wneud gyda dy blant.

“Ti constantly on the go yn dy feddwl, meddwl am y gorffennol a meddwl am y dyfodol, ac eto ddim yn meddwl am y presennol a bod yn dy gorff yn y presennol.

“Mae myfyrio yn rhan o gael ti’n centred.

“Mae rhyw ganolbwynt yn dod â ti’n ôl i’r canol, mewn i dy gorff.

“Oherwydd bo ni on the go o hyd, dydyn ni ddim yn rhoi teimladau i ni deimlo, ac mae’n teimladau yn ein corff.

“Mae’n meddyliau ni yn ein meddwl, a’n teimladau ni yn ein corff.

“Os ydym constantly on the go, dydyn ddim yn rhoi amser i’n hunain deimlo yn ein cyrff.”

Byw yn y presennol

Yng nghanol bywyd prysur, hawdd yw anghofio’r foment honno a meddwl am y gorffennol neu’r dyfodol.

Yn ôl Meleri Bowen, bydd y sesiwn yn helpu pobol i fod yn y presennol.

“Mae cymryd sylw o’r foment bresennol yn bwysig, oherwydd gan amlaf rydym ni un ai yn byw yn y gorffennol neu yn y dyfodol,” meddai.

“Rydym yn gallu meddwl, “O, be wnes i ddweud?” neu yn poeni am rywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, neu rydym yn meddwl am y dyfodol lle rydym yn poeni am beth sydd i ddod.

“Dyna pam bod y sesiynau yma’n dda, oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i ti fod yn y foment bresennol, i fod gyda ti a dy deimladau, yn lle poeni am y gorffennol neu’r dyfodol.

“Rydym yn byw er mwyn y dyfodol, yn lle cymryd saib neu time out i jyst ‘bod’ a gwerthfawrogi’r pethau sydd o’n cwmpas ni nawr.”

Dechrau myfyrio

Mae Meleri Bowen yn llais cyfarwydd ar y radio, yn rhannu awgrymiadau ar sut i fyfyrio.

Un broblem, meddai, yw fod pobol weithiau yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu myfyrio’n iawn.

“Ges i sgwrs gyda Ffion Emyr gwpwl o wythnosau yn ôl,” meddai.

“Roedd y sgwrs yna’n sgwrs ar sut i ddechrau myfyrio yn gyffredinol.

“Y tip cyntaf yw stopio dweud ‘Dw i methu gwneud o, dwi methu myfyrio’, oherwydd dyna sy’n digwydd fel arfer.

“Ti’n creu stori neu’n perswadio dy hun fod o ddim i ti oherwydd dy fod wedi trio cwpwl o weithiau.

“Mae yna misconception am fyfyrio bod rhaid i’r meddwl fod yn hollol dawel i fyfyrio yn gywir.

“Mae hyn yn anghywir, gan ein bod yn cael cannoedd ar filoedd o feddyliau pob dydd; mae tawelu pob un yn amhosib.

“Mae eisiau cael gwared ar y myth a’r misconception yna bod rhaid i’r meddwl fod yn hollol dawel, oherwydd dydy hynny ddim yn wir.”

Bod yn chwilfrydig

Yn ôl Meleri Bowen, does dim un rheol ar sut i fyfyrio ac mae bod yn chwilfrydig a diffygiol yn dderbyniol.

“Does dim rheolau bod rhaid iddo ddigwydd ffordd hyn neu fod rhaid iddo ddigwydd ffordd arall,” meddai.

“Gan amlaf, oherwydd bo ni’n perfectionists, rydym eisiau gwneud pethau yn berffaith ac yn gywir.

“Y gwirionedd yw nad ydym ni’n perfect beings, rydym yn perfectly flawed ar adegau.

“Rwy’n meddwl bod angen bod yn garedig a ‘release the expectation‘.

“Mae bod yn chwilfrydig yn ffordd lefel entry o ddod mewn i fyfyrio, bod yn chwilfrydig o beth yw e, o beth i’w ddisgwyl ac yn y blaen.”

Gosod bwriad

Yn ôl Meleri Bowen mae gosod bwriad yn effeithiol wrth fyfyrio hefyd, neu “gofyn i chi’ch hun beth ydych chi eisiau ei gael ma’s o fyfyrio”.

“Efallai dy fod eisiau cael ateb i gwestiwn sydd wedi bod yn mynd rownd yn dy feddwl ers sbel,” meddai.

“Efallai dy fod eisiau tawelwch llwyr.

“Does dim rhaid gosod bwriad, ond rwy’n meddwl bod gosod bwriad yn rywbeth da i weithio tuag ato.

“Os wyt ti’n gosod bwriad, mae’n rywbeth ti’n gwybod ti’n gweithio tuag ato.”

Gosod her

Yn ôl Meleri Bowen, mae gosod her a chydweithio hefyd yn helpu gyda myfyrio.

“Os mae rhywun eisiau dechrau myfyrio, awgrym arall yw gosod her i dy hun, bo ti’n gosod her bersonol, bo ti’n myfyrio am ddeg diwrnod ar y tro er enghraifft, bo ti’n rhoi amser penodol yn dy amserlen di bob dydd, bo ti’n gwybod ‘Rwy’n codi bob bore am 7.30, am ddeg munud, dyna pryd rwy’n myfyrio am y deg diwrnod nesaf.

“Byset ti’n gallu cael accountability gyda grŵp o ffrindiau, bo chi’n gwneud o ar y cyd.

“Efallai byddai hwnna o fudd hefyd.”

Defod arbennig

Yn ôl Meleri Bowen, mae ceisio gwneud myfyrio yn ddefod yn ei wneud yn fwy arbennig – ac mae sawl ffordd o wneud hyn.

“Mae hynny’n gwneud o fwy exciting, yn lle bod rhaid i ti wneud o.

“Os wyt ti’n gwneud o fel defod, ti eisiau’i wneud o.

“Mae o’n troi mewn i achlysur bach personol wedyn.

“Opsiwn fyddai prynu cadair fyfyrio.

“Bydd gen ti gadair fyfyrio ti’n ei hoffi, byddet ti’n teimlo wedi grymuso i eistedd ar y gadair yma bob tro ti’n myfyrio.

“Efallai bo ti’n mynd i rywle penodol – i’r traeth, i ben mynydd, i’r goedwig, i’r parc, neu beth bynnag.

“Efallai defod arall fyddai cynnau canhwyllau, troi’r goleuadau lawr, setio’r mood neu bo ti’n rhoi noson benodol bob wythnos i fyfyrio.”