Mae Plaid Cymru wedi amlinellu sut y gellid gweithredu gwasanaeth addysg a gofal blynyddoedd cynnar cenedlaethol rhad ac am ddim, gyda darpariaeth o ansawdd uchel i bob plentyn 12 mis oed nes eu bod yn gymwys ar gyfer addysg amser llawn, cyn y diwedd chweched tymor y Senedd.

Mae gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae Heledd Fychan, llefarydd plant a phobol ifanc Plaid Cymru, wedi amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru fynd ymhellach na hyn, ac mae hi wedi ailadrodd gweledigaeth tymor hir Plaid Cymru ar gyfer gofal plant am ddim i bawb.

Mae’r cynlluniau’n amlinellu camau gweithredu ar unwaith i helpu plant a theuluoedd yng nghymunedau tlotaf Cymru, drwy gyflwyno lleoedd i blant 12 mis oed yn ystod cam cyntaf y polisi.

‘Cymru well’

“Mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant yn rhan o weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru well,” meddai Heledd Fychan.

“Mae hyn yn golygu gofal plant dwyieithog ac addysgol o ansawdd uchel am ddim i bawb, gan helpu teuluoedd gyda chostau gofal plant a chael gwared ar rwystrau i rieni sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith.

“Mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi sicrhau gofal plant am ddim i blant dwy oed fel rhan o’n cytundeb gyda Llywodraeth Cymru, ond rydym bob amser wedi dweud ein bod am fynd ymhellach.

“Mae’r cynigion amlinellir heddiw yn dangos sut y gellid sicrhau gofal plant am ddim i bawb erbyn diwedd tymor y Senedd hon – gyda buddsoddiad ychwanegol mewn lleoliadau gofal plant, hyfforddiant a chreu miloedd o swyddi yn cael eu gweithredu ar unwaith.

“Byddai hyn yn ei wneud yn un o’r cynigion mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, yn decach na’r Torïaid ac yn fwy uchelgeisiol na Llafur.

“Byddai polisi Plaid Cymru yn rhoi hawliau plant yn gyntaf – credwn y dylai plant allu cael mynediad at fuddion addysg gynnar a gofal waeth ble maent yn byw a statws gwaith eu teuluoedd.

“Byddai ein cynnig hefyd yn adlewyrchu anghenion teuluoedd yn well, ar gael am 48 wythnos y flwyddyn nid dim ond 39 wythnos.

“Mae manteision gofal plant am ddim yn y tymor hir wrth drechu tlodi yn golygu ein bod nid yn unig yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant, ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth i’w dyfodol.”