Ar Ddiwrnod Dathlu Trawsrywedd, mae mwy o gymunedau ledled Cymru’n cael eu hannog i wneud cais am arian i gynnal digwyddiad Pride i sicrhau bod pob person LHDTC+ yn gallu cymryd rhan a dathlu bod yn nhw eu hunain yn eu hardal leol.
Roedd data’r Cyfrifiad gafodd ei gyhoeddi’n gynharach eleni yn dangos bod pobol LHDTC+ yn byw ac yn cymryd rhan ym mhob rhan o Gymru, ac felly mae Cronfa Balchder Llawr Gwlad Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i ddatblygu a threfnu digwyddiadau llai o faint i sicrhau eu bod nhw’n ffynnu.
O’r Barri i Fangor, mae dathliadau Pride bellach yn cael eu cynnal ledled Cymru bob blwyddyn, gan helpu mwy o bobol i deimlo’n rhydd, yn ddiogel ac wedi’u cefnogi wrth i’r genedl barhau i geisio cyrraedd y nod o fod y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobol LHDTC+.
Pride y Bont-faen
Mae digwyddiadau fel Pride yn y Bont-faen yn dod â phobol at ei gilydd, yn cynyddu gwelededd ac yn lleihau ynysu gwledig.
Dywed y trefnydd Ian ‘H’ Watkins ei fod yn teimlo’n angerddol am gynnig cynrychiolaeth i’r rhai sydd ei hangen yn ei gymuned.
“Fy nhref leol i yw hi a lle mae fy mhlant yn tyfu i fyny, ac roeddwn yn teimlo bod llawer o bobol yn y gymuned LHDTC+ nad oedden nhw’n cael eu cynrychioli ac felly fe wnes i benderfynu bod yn llais iddynt,” meddai.
“Y digwyddiadau Pride mewn trefi a dinasoedd mawr yw’r uchafbwyntiau, ond yn fy marn i y rhai pwysicaf yw’r rhai sy’n digwydd mewn trefi bach.
“Fel dyn hoyw, rwyf wedi tyfu fyny ar adeg o newidiadau niferus yn y gymuned LHDTC+.
“Gallwn ddod i arfer â phobol yn galw enwau arnom a chael ein gwthio i gefn y ciw a gorfod magu croen trwchus – ond fe wnaeth y gefnogaeth a’r cyfeillgarwch i’r holl gymuned LHDTC+ yn y digwyddiad Pride yn y Bont-faen wneud cryn argraff arnaf.
“Roeddwn i’n methu credu’r peth ac fe aeth y tu hwnt i fy nisgwyliadau i gyd.”
Hawliau wedi’u gwreiddio
Mae hawliau LHDTC+ wedi’u gwreiddio yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, ac mae gweinidogion wedi ymrwymo i sicrhau newid ystyrlon ar gyfer pob cymuned LHDTC+.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Dathlu Trawsrywedd yn benodol i ddathlu pobol draws ac mae digwyddiadau Pride yn enghraifft berffaith o fannau diogel lle gall pobol fyw a dathlu fel nhw eu hunain.
Roedd digwyddiad Pride y Bont-faen y llynedd yn cynnwys sioe ffasiwn a wnaeth gynnwys modelau traws yn benodol.
“Roedd yr ymateb yn anhygoel,” meddai Ian ‘H’ Watkins.
“Ni chafodd y rhai a gymerodd ran eu barnu ond yn hytrach eu cofleidio â chariad, fel rhan o gymuned a theulu hyfryd.
“Rwy’n falch iawn o hynny.”
Cynllun Gweithredu
Yn gynharach eleni, cafodd y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ei lansio fel rhan o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, ddangosodd ymrwymiad clir i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl draws ac anneuaidd.
Mae’r Cynllun yn tanlinellu bwriad Cymru i hybu cydraddoldeb a chynhwysiant, ac roedd cefnogaeth barhaus i sefydliadau balchder a digwyddiadau balchder lleol yn un o’i gamau gweithredu.
“Yma yng Nghymru, rydym eisiau sicrhau bod cynrychiolaeth ym mhob tref, dinas a phentref fel rhan o’n huchelgais i fod y genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobol LHDTC+,” meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.
“I chwarae ein rhan i ddarparu llwyfan i sicrhau y gall pob person LHDTC+ gymryd rhan a mwynhau popeth sydd gan ddigwyddiadau Pride i’w gynnig.
“Rwy’n gwybod o brofiad personol y gwahaniaeth mae digwyddiadau Pride mewn cymunedau lleol ar draws y wlad yn ei wneud.
“Pan oeddwn i’n tyfu fyny yng ngogledd Cymru, ni fyddwn byth wedi gallu dychmygu digwyddiad Pride lleol ac mae gweld digwyddiadau Pride yn cael eu cynnal ar draws y wlad nawr yn golygu llawer i mi.”