Byddai agor ysgol Saesneg newydd yn Rhondda Cynon Taf yn “gam yn ôl i addysg Gymraeg”, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd sy’n galw ar Ysgrifennydd Addysg Cymru i ymyrryd yn y penderfyniad.
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd ysgol Saesneg newydd yn Glyncoch yn un o dair ysgol newydd carbon sero net i gael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Heledd Fychan, sy’n cynrychioli Canol De Cymru, wedi ysgrifennu at Jeremy Miles i ofyn iddo ail-ystyried cyfrwng iaith yr ysgol ar fyrder.
Ers blynyddoedd bellach, mae ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn yr ardal wedi bod yn galw am ysgol Gymraeg newydd ar yr union safle lle bydd yr ysgol hon yn cael ei hadeiladu.
Daw hyn yn sgil y penderfyniad i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sïon Norton ac agor ysgol Gymraeg newydd ar safle Ysgol Heol y Celyn, fydd filltiroedd yn bellach o ardaloedd Ynysybwl a Glyncoch.
“Mae pryder gwirioneddol yn yr ardal am ddyfodol y Gymraeg, a chred nifer y bydd yr ysgol newydd hon yn gam yn ôl o ran yr Iaith ac addysg Gymraeg,” meddai Heledd Fychan.
“Er bydd trafnidiaeth yn cael ei ddarparu i ysgol Gymraeg newydd, bydd rhieni heb gar angen teithio ar ddau fws i’w plant ddefnyddio’r clwb brecwast; os oes angen casglu eu plant ar gyfer apwyntiad brys neu os ydynt yn sâl; neu os yw eu plant yn mynychu clybiau ar ôl ysgol.
“Gyda’r canran o aelwydydd sy’n berchen ar geir ymysg yr isaf yng Nghymru yn yr ardaloedd hyn, nifer fach o rieni fydd yn dewis gyrru eu plant i ysgol Gymraeg sy’n anos a drytach i’w chyrraedd na’r ysgol Saesneg newydd hon.
“A ninnau gydag uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yma yng Nghymru, rwyf yn synnu yn fawr gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cynllun fydd yn niweidio’r Gymraeg yn yr ardal.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ail-ystyried cyfrwng Iaith yr ysgol hon, a hynny ar fyrder.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Ein huchelgais yw bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg lle bynnag, ac ym mha bynnag ysgol y maen nhw’n dysgu,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae’r ysgol newydd yng Nglyncoch yn cynnwys cynigion i gyflwyno lefel uwch o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r cychwyn cyntaf – gan ddechrau o’i darpariaeth gofal plant gydag uned drochi Cymraeg, gan symud ymlaen yn raddol at fwy o gyfleoedd i chwarae a dysgu drwy’r Gymraeg.
“Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cytuno cynlluniau i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf o 10% dros y 10 mlynedd nesaf.
“Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn agor ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd, yn ehangu’r ysgolion Cymraeg presennol ac yn ail-gategoreiddio eraill o ddwy ffrwd i Gymraeg – gan greu 300 o lefydd ysgol ychwanegol cyfrwng Cymraeg.”