Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y gwasanaeth fflecsi tymhorol yn dychwelyd i Ben Llŷn.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chludiant Cymunedol O Ddrws i Ddrws, bydd y gwasanaeth yn ailddechrau yfory (dydd Sadwrn, Ebrill 1), gan ddarparu cysylltiadau teithio pwysig i gymunedau a llwybrau i gyrchfannau poblogaidd i ymwelwyr â’r ardal yn ystod misoedd yr haf.

Bydd gwasanaeth fflecsi Llŷn yn gweithredu rhwng dydd Gwener a dydd Llun o 9yb tan 6yh, hyd at ddydd Sul, Medi 17.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn gweithredu ar ddydd Mawrth, Awst 8, dydd Mercher Awst 9, ac ar ddydd Iau, Awst 10 rhwng 9yb tan 6yh, i helpu i gludo teithwyr yn ôl ac ymlaen o’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.

Mae nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth wedi mwy na dyblu ers i’r gwasanaeth ddechrau gweithredu gyntaf yn 2021, gyda mwy na 2,200 o deithiau wedi’u cwblhau yn 2022 o gymharu â 689 yn y flwyddyn flaenorol.

Gwasanaeth hanfodol i gymunedau gwledig

Mae fflecsi Llŷn, sy’n defnyddio bws trydan fel rhan o’i fflyd, yn ddewis trafnidiaeth ecogyfeillgar i gymunedau a thwristiaid.

Mae’r gwasanaeth yn cysylltu tref arfordirol Pwllheli, lle mae’n cwrdd â Lein y Cambrian, â rhan orllewinol Penrhyn Llŷn, gan gwmpasu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a chan gynnwys pentrefi Abersoch, Aberdaron, Nefyn a Phorthdinllaen, pentref pysgota golygfaol.

“Mae Pen Llŷn yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid yng Nghymru ac mae gwasanaeth fflecsi Llŷn yn chwarae rhan bwysig yn gweithredu fel sbardun i drafnidiaeth gynaliadwy yn yr ardal,” meddai Lee Robinson, Cyfarwyddwr canolbarth, gogledd a Chymru wledig Trafnidiaeth Cymru.

“Mae nifer y teithwyr yn parhau i gynyddu, ac rwy’n falch iawn o weld y gwasanaeth yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn yn olynol.

“Gwyddom bod fflecsi yn darparu gwasanaeth hanfodol i ardaloedd gwledig ac mae’n parhau i fod yn rhan hanfodol o ymrwymiad TrC i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-fodd sy’n annog mwy o bobol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”

Penrhyn Llŷn yn “ddilychwin”

“Mae fflecsi yn ddewis trafnidiaeth gwerthfawr iawn i bobol leol ac ymwelwyr â Phen Llŷn yn ystod yr haf,” meddai Wil Parry, Rheolwr Prosiect Cludiant Cymunedol O Ddrws i Ddrws.

“Rwy’n hapus iawn bod y gwasanaeth yn dychwelyd am ei drydydd tymor eleni.

“Rhan o’r hyn sy’n gwneud Penrhyn Llŷn mor arbennig yw ei fod yn ddilychwin.

“Mae gennym arfordiroedd godidog, traethau tywodlyd, cildraethau diarffordd ac ar y mewndir, pentrefi bychain a phentrefannau.

“Rydym eisiau chwarae ein rhan yn gwarchod yr ardal am genedlaethau i ddod drwy gyfnewid y car am ddewis trafnidiaeth gynaliadwy.”