Mae cwmni 2 Sisters wedi cadarnhau y bydd eu ffatri prosesu cig ar Ynys Môn yn cau ddiwedd mis yma (dydd Gwener, Mawrth 31).

O Ebrill 1, maen nhw’n amcangyfrif mai hyd at 25 yn unig o’r 730 aelod o staff presennol fydd yn parhau mewn gwaith ar y safle.

Cyhoeddodd y cwmni ym mis Ionawr nad oedd eu ffatri prosesu cig yn Llangefni yn gynaladwy bellach, a’u bod nhw’n bwriadu cau.

Yn ogystal â beio heriau’r sector cynhyrchu bwyd, dywed y cwmni fod modd iddyn nhw greu eu cynnyrch yn “fwy effeithlon mewn rhan arall” o’u hystâd.

Newyddion “trychinebus”

“Mae hwn yn newyddion trychinebus i’r gweithlu a’u teuluoedd,” meddai Llinos Medi, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn.

“Ein blaenoriaeth nawr fydd eu cefnogi cymaint ag sydd bosib a sicrhau bod holl bartneriaid tasglu 2 Sisters yn parhau i gydweithio ar eu rhan.

“Bydd rhaid hefyd ganolbwyntio ar ddyfodol hirdymor y safle a’r effaith y bydd colli dros 700 o swyddi yn ei gael ar ddyfodol yr Ynys a’r rhanbarth.”

Blaenoriaethu swyddi newydd i’r gweithwyr

Aeth Llywodraeth Cymru ati, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chyngor Sir Ynys Môn, i sefydlu tasglu er mwyn ceisio cynnig cefnogaeth i’r gweithwyr a’r gymuned.

Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Canolfan Gymorth Cyflogaeth yng Nghanolfan Fusnes Bryn Cefni yn y dref, gyda chymorth gan sefydliadau fel Cymru’n Gweithio, Cyngor ar Bopeth a Chanolfan Byd Gwaith.

“Ein blaenoriaethau nawr fydd darganfod swyddi newydd i weithwyr 2 Sisters a’u llesiant; sicrhau dyfodol hyfyw i’r safle a diogelu economi ein Hynys,” meddai Dylan J Williams, Prif Weithredwr Cyngor Môn.

“Bydd ymrwymiad parhaol i gydweithio gan Lywodraeth Cymru a’r DU a phartneriaid eraill yn parhau’n hanfodol.”

 

Cau ffatri cywion ieir ar Ynys Môn am gael “effaith andwyol” ar yr ardal

Cadi Dafydd

“Rhwng Brexit a’r cynnydd mewn prisiau tanwydd ar y funud, fyswn i’n feddwl bod hynna wedi effeithio’r ffactri yma’n enfawr,” medd y cynghorydd lleol

Tasglu’n cwrdd er mwyn ceisio achub ffatri 2 Sisters

“Mae angen rhoi rhyw fath o becyn ariannol a chymorth i mewn er mwyn cadw’n hogiau ni mewn gwaith”

Cannoedd o swyddi yn y fantol yn ffatri 2 Sisters Llangefni: ‘Ergyd i’r Gymraeg a chymunedau’

“Mae hyn yn newyddion trychinebus i’r holl weithwyr hynny sydd mewn perygl o golli eu swyddi yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni”