Mae’n destun pryder y bydd 14% yn llai o amser bob wythnos i addysgu Gwyddeleg mewn ysgolion cynradd o dan y Fframwaith Cwricwlwm Cynradd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Mawrth 9), yn ôl y mudiad Conradh na Gaeilge.

Tra eu bod nhw’n cydnabod fod “tipyn i’w ganmol” yn y Fframwaith, maen nhw’n galw ar y Gweinidog Addysg Norma Foley i ddatblygu Polisi Gwyddeleg yn y System Addysg, o oed cyn ysgol hyd at y Drydedd Lefel, yn unol ag addewid Fianna Fáil yn etholiad cyffredinol 2020.

Mae hefyd yn cael ei grybwyll yn y Rhaglen Lywodraeth er mwyn mynd i’r afael â’r problemau fydd yn codi wrth leihau’r amser sydd ar gael i addysgu Gwyddeleg yn y dosbarth pan ddaw’r fframwaith newydd i rym.

“Tra bod llawer i’w ganmol yn y Fframwaith Cwricwlwm Cynradd newydd, datgelwyd heddiw y bydd yr amser i addysgu Gwyddeleg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn cael ei gwtogi o 3.5 awr i dair awr yr wythnos o’r Drydedd Lefel.

“Credwn fod hwn yn gam yn ôl i’r ysgolion sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Saesneg (92% o’r holl ysgolion).

“Mae gennym ni rai cwestiynau sylfaenol am hyn – a yw’r Adran wedi ymchwilio i’r goblygiadau ar gyfer safon yr iaith Wyddeleg mewn ysgolion cynradd os caiff yr amser i addysgu Gwyddeleg ei gwtogi gan 14% bob wythnos?

“Sut fydd y cwtogi amser hwn yn helpu i ddatrys y problemau presennol yn y system, er enghraifft roedd sôn am y canlynol mewn ymchwil gafodd ei chyhoeddi yr wythnos ddiwethaf a’i chwblhau gan SEALBHÚ mewn perthynas â’r Cylch Iau:

Doedd athrawon ddim yn meddwl bod y manylebau wedi’u haddasu yn unol â safon Gwyddeleg myfyrwyr yn mynd i mewn i ysgol ôl-gynradd. Roedd safon Gwyddeleg myfyrwyr, yn eu barn nhw, yn rhy isel i gyrraedd nod y manylebau a’r prif heriau sy’n ymwneud â llenyddiaeth. Cytunodd y myfyrwyr â’r farn hon, a doedden nhw ddim yn teimlo’n barod ar gyfer deunyddiau’r dosbarth.’ 

“Rydym yn deall y bydd yna amser hyblyg yn y cwricwlwm newydd i’r ysgolion ganolbwyntio ar bynciau maen nhw eisiau canolbwyntio arnyn nhw.

“Does dim sicrwydd y cafodd yr amser hwn ei ddefnyddio i ddisodli’r gostyngiad o 30 munud, yn enwedig mewn ysgolion cynradd nad ydyn nhw’n blaenoriaethu’r iaith yn ddigonol.

“Yn ychwanegol at hyn i gyd, a oes yna ymchwil sy’n dangos nad yw tair awr a hanner yr wythnos yn angenrheidiol i addysgu Gwyddeleg?”

Ymgynghoriad “yn ddiffygiol o’r cychwyn”

“Credwn fod yr ymgynghoriad gafodd ei gwblhau gan yr NCCA (Cyngor Cenedlaethol y Cwricwlwm ac Asesiadau) i lunio argymhellion i’r Gweinidog Addysg yn ddiffygiol o’r cychwyn,” meddai Julian de Spáinn, Ysgrifennydd Cyffredinol Conradh na Gaeilge.

“Fe wnaethon ni godi hyn sawl gwaith gyda nhw, yn enwedig nad oedd cyfle yn yr holiadur, oedd yn rhan o’r ymgynghoriad, i ddewis yr amser sydd ar hyn o bryd i addysgu Gwyddeleg a Saesneg fel yr amser cywir i’w glustnodi yn y dyfodol.

“Roedd hi’n glir i ni, felly, fod y penderfyniad y byddai newid yn yr amser fyddai’n cael ei neilltuo wedi cael ei wneud cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ac rydym yn siomedig ond heb ein synnu y cafodd ei ddewis i leihau faint o amser sydd ar gyfer addysgu Gwyddeleg.

“I achub y blaen ar y problemau fydd yn codi o’r fframwaith cwricwlwm newydd gyda gostyngiad yn yr amser i addysgu Gwyddeleg, rydym yn galw ar y gweinidog i ddechrau datblygu, ar unwaith, y Polisi ar gyfer Gwyddeleg yn y System Addysg o Oed cyn-Cynradd i’r Drydedd Lefel, fel gafodd ei addo gan Fianna Fáil yn etholiad cyffredinol 2020, ac sy’n cael ei grybwyll yn y Rhaglen Lywodraeth.

“Mae’n destun pryder i ni fod rhan o’r Llywodraeth yn ceisio’n adeiladol i hybu’r iaith Wyddeleg yn y gymuned, megis yr Adran Dwristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a’r Cyfryngau, gyda’r ddeddfwriaeth newydd fydd yn mynnu bod 20% o’r bobol fydd yn cael eu recriwtio yn y dyfodol yn hyddysg mewn Gwyddeleg a Saesneg.

“Fydd penderfyniad y Gweinidog Addysg o ran lleihau’r amser bob wythnos i addysgu Gwyddeleg mewn ysgolion sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Saesneg ddim yn helpu i gyrraedd y nod yma.

“Mae perygl hefyd y bydd gan nifer o ddisgyblion seiliau gwannach mewn Gwyddeleg wrth adael ysgolion cynradd, ac o ganlyniad bydd yn fwy anodd iddyn nhw gael mynediad i’r cyfleoedd gyrfa ar gyfer pobol sy’n hyddysg mewn Gwyddeleg a Saesneg yn y dyfodol.”