HS2 yw’r “eliffant gwyn mwyaf yn y syrcas Dorïaidd”, yn ôl Liz Saville Roberts, sy’n dweud ei bod hi’n “abswrd” galw’r prosiect yn un ‘Cymru-a-Lloegr’.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, dylid ei ailddynodi’n brosiect ‘Lloegr yn unig’, a hynny yn dilyn adroddiadau y bydd ‘oedi’ wrth gwblhau rhannau o’r prosiect.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “parhau i esgus fod HS2 yn brosiect ‘Cymru-a-Lloegr’, meddai.

Daw ei sylwadau wrth i’r BBC adrodd fod disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi y bydd oedi wrth adeiladu rhannau o HS2 wrth iddyn nhw geisio arbed arian.

Yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, dydy Cymru ddim yn derbyn arian trwy Fformiwla Barnett yn sgil gwario arian ar HS2, gan fod grymoedd tros isadeiledd y rheilffyrdd yng Nghymru wedi’u cadw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Am y rheswm yma, mae’r Trysorlys wedi dynodi HS2 yn ‘brosiect cenedlaethol’ sydd o fudd i’r ddwy wlad, er bod y prosiect cyfan o fewn ffiniau Lloegr.

Yn ôl adroddiadau, llinell rheilffordd newydd rhwng Llundain a Birmingham fydd y gwasanaeth HS2, ac am y rheswm hwnnw mae Liz Saville Roberts yn dweud ei bod hi’n “abswrd” fod San Steffan yn parhau i “esgus” ei fod o fudd i Gymru.

Mae hi’n galw ar David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, i “ddechrau gwneud ei waith” a mynnu cyfran deg i Gymru o’r “eliffant gwyn mwyaf yn y syrcas Dorïaidd”.

‘Dadl dreuliedig bellach wedi’i rhwygo’n ddarnau’

“Mae’n abswrd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i esgus fod HS2 yn brosiect ‘Cymru-a-Lloegr’, pan fo’n glir na fydd yn ddim byd mwy na llinell newydd rhwng Llundain a Birmingham,” meddai Liz Saville Roberts.

“Roedd y ddadl dros wadu ein cyfran deg o arian ganlyniadol HS2 yn dreuliedig i gychwyn; bellach mae wedi’i rhwygo’n ddarnau.

“Mae’n bryd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddechrau gwneud ei waith a mynnu cyfran deg i Gymru o’r eliffant gwyn mwyaf hwn yn y syrcas Dorïaidd.”