Bydd cau ffatri cywion ieir sy’n cyflogi 730 o bobol ar Ynys Môn yn cael “effaith anwydol” ar yr ardal, yn ôl y cynghorydd lleol.

Pryder Nicola Roberts, sy’n cynrychioli ward Cefni ar Gyngor Ynys Môn, yw ai ffatri 2 Sisters yn Llangefni fydd y cyntaf o nifer o fusnesau fydd yn cael eu gorfodi i gau.

Daeth cadarnhad o’r newyddion ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, wedi iddyn nhw gyhoeddi cynlluniau i gau ym mis Ionawr.

Yn ôl y cwmni, maen nhw’n “archwilio pob ffordd” o gefnogi eu gweithlu, a chyn hynny roedden nhw wedi dweud bod y ffatri ar Ynys Môn yn fach, yn un o’u safleoedd hynaf, a bod modd cynhyrchu’r cywion ieir yn fwy effeithiol yn rhywle arall.

Mae’r cyhoeddiad yn un “siomedig iawn”, meddai Nicola Roberts, sy’n cynrychioli Plaid Cymru.

“Roedden ni’n gobeithio ella fysa’r llywodraethau wedi gallu tynnu at ei gilydd i drio arbed y ffatri, ond ar ddiwedd y dydd mae’r cwmni wedi gwneud eu penderfyniad,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n rhaid i ni gefnogi’n hogiau a’n teuluoedd lleol i ddod drwyddi rŵan.

“Mae o’n mynd i gael effaith andwyol ar yr ardal, yn enwedig cymuned mor glos ag Ynys Môn.

“Rhaid cofio hefyd bod lot fawr o bobol o ochrau Bangor wedi bod yn cael eu cefnogi gan y ffatri.

“Mae o’n mynd i fod yn hit lot mwy na mae bobol yn ddisgwyl, yn enwedig efo gwaith mor brin ar y funud, yn enwedig yn y maes yma.”

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd tasglu’n cyfarfod unwaith yr wythnos i gynnig “cymaint o gymorth â phosib i gefnogi’r gweithwyr sydd wedi’u heffeithio”.

“I fod yn onest, fedran ni ddim gwneud llawer o ddim byd fel cynghorwyr ar y funud,” meddai Nicola Roberts wedyn.

“Yr unig beth fedran ni wneud ydy bod yn rhan o’r grŵp tasg er mwyn bod gweithwyr yn cael gwybod yn iawn be ydy eu hawliau nhw, eu bod nhw’n cael be maen nhw angen o ran taliadau redundancy ac yn y blaen, a’u bod nhw hefyd yn cael bob un cymorth posib i fedru cael budd-daliadau os ydyn nhw angen nhw a ac i’w cael nhw’n ôl mewn i waith – i adnabod y sgiliau sydd gan yr hogiau yma, a gweld os oes yn fodd i upskill-io neu transfer-io’r sgiliau sydd ganddyn nhw mewn i waith gwahanol.”

Brexit a phrisiau ynni

Mae Nicola Roberts yn tybio bod Brexit a’r cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd wedi effeithio’r ffatri “yn enfawr”.

“I fod yn onest, yr unig bryder sydd gennym ni ydy, ydy’r 2 Sisters yn mynd i fod y cyntaf allan o nifer o fusnesau sydd am gael eu gorfodi i fynd i’r wal?” meddai.

“Mae hi’n broblem anferthol i ni’n lleol â bod yn onest.

“A [phrinder] CO2 hefyd, fyswn i’n meddwl bod hwnna’n ffactor anferth efo’r ffactri yma. Mae lot o ffactrïoedd yn mynd i gael trafferth, a lot o rai llai hefyd ella sy’n mynd o dan y radar.

“Mae’r ffaith bod 2 Sisters yn gwmni mor fawr wedi dwyn sylw, ond yn anffodus dydy o ddim wedi dwyn ffrwyth digon o gefnogaeth gan llywodraeth Llundain i fedru atal hyn rhag digwydd, sy’n siomedig.”

‘Siom’

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod hi’n “siom” clywed gan y cwmni nad oedd unrhyw gynlluniau hyfyw wedi cael eu hadnabod ar gyfer 2 Sisters Ltd i gynnal y safle yn Llangefni, a bod y cwmni bellach yn symud ymlaen gyda chynlluniau i roi’r gorau i gynhyrchu yno.

“Mae Grŵp Gweithredol y Tasglu yn cyfarfod yn wythnosol ac yn cynnwys ystod eang o sefydliadau ac asiantaethau. Eu prif ffocws o hyd yw adnabod a chydlynu cymaint o gymorth â phosibl i gefnogi’r gweithwyr gafodd eu heffeithio o ganlyniad i’r cynlluniau i gau, o ran sicrhau cyflogaeth newydd yn y dyfodol a’u lles.

“Roedd y Tasglu’n unfrydol ei gefnogaeth i ymgysylltu’n gynnar a rhagweithiol â pherchennog y safle er mwyn sicrhau ei ddyfodol fel safle cyflogi allweddol i Langefni a’r ardal ehangach.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Cyngor Ynys Môn, yr undebau llafur a rhanddeiliaid eraill i gefnogi’r unigolion a’r gymuned leol.”

Cannoedd o swyddi yn y fantol yn ffatri 2 Sisters Llangefni: ‘Ergyd i’r Gymraeg a chymunedau’

“Mae hyn yn newyddion trychinebus i’r holl weithwyr hynny sydd mewn perygl o golli eu swyddi yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni”

Tasglu’n cwrdd er mwyn ceisio achub ffatri 2 Sisters

“Mae angen rhoi rhyw fath o becyn ariannol a chymorth i mewn er mwyn cadw’n hogiau ni mewn gwaith”