Mae galwadau o’r newydd i gael gwared ar gynlluniau i godi biliau ynni cyfartalog gan £500 ym mis Ebrill.

Er bod rheoleiddwyr ynni Ofgem wedi gostwng y cap ar brisiau ynni, bydd biliau’n dal i godi ym mis Ebrill wrth i gymorth Llywodraeth y Deyrnas Unedig leihau.

Bydd biliau ynni cyfartalog yn codi i £3,000 y flwyddyn ym mis Ebrill.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau cael gwared ar y cynnydd o £500 i filiau yng Nghymru, a chwtogi’r bil cyfartalog i £1,971 – sef yr un fath ag Ebrill y llynedd.

Byddai’r fath newid yn arbed £400 ar gyfartaledd i aelwydydd dros y deuddeg mis nesaf.

Mewn gwirionedd, bydd y cynnydd yn fwy na £500 gan mai £2,100 ydy’r bil cyfartalog ar hyn o bryd, oherwydd bod gostyngiad gaeaf o £400 yn cael ei roi at bob bil.

I aelwydydd ar incymau is, mae’r blaid am weld cymorth ychwanegol, gan gynnwys dyblu’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes i £300.

‘Effaith ddinistriol’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw am dreth “bonws bonanza” un-tro ar gwmnïau olew a nwy sy’n gwneud miliynau o bunnoedd yn sgil y biliau cynyddol.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, fe wnaeth prif weithredwyr BP a Shell £17m drwy eu cyflog, bonysau a phensiwn mewn blwyddyn.

“Bydd cynllun y Ceidwadwyr i godi prisiau ynni eto ym mis Ebrill yn ddinistriol i bobol dros Gymru sy’n cael trafferth talu morgeisi a rhent, biliau siopa a threthi cynyddol yn barod,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Roedd gan fy rhanbarth un o’r cyfraddau tlodi tanwydd uchaf cyn yr ymosodiad ar Wcráin a’r argyfwng ynni, ac mae’r trafferthion mae rhai pobol yn eu hwynebu yn frawychus.

“Ac nid teuluoedd yn unig sy’n dioddef, ond mae nifer uchel o fusnesau yn fy rhanbarth wedi cau’n ddiweddar yn sgil biliau ynni cynyddol a’r sefyllfa sy’n eu hwynebu ym mis Ebrill pan fydd cefnogaeth y Llywodraeth yn lleihau.

“Mae busnesau’n cau yn cael effaith ar yr economi leol a chyflogaeth, yn enwedig yng Nghymru, sydd fwy dibynnol ar fusnesau bach a chanolig na gweddill y Deyrnas Unedig.”

Mae’r blaid hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â lleihau eu cymorth tuag at filiau ynni busnesau, ysgolion ac ysbytai gan 85%, ac ymestyn y gefnogaeth am chwe mis arall.

“Rhaid i Rishi Sunak newid trydydd nawr i achub teuluoedd rhag bod ar ddibyn yr argyfwng costau byw, drwy leihau biliau ynni yn hytrach na’u codi,” meddai Jane Dodds wedyn.

“Rydyn ni angen gweithredu gan y Llywodraeth, fedrith hi ddim bod yn iawn bod cwmnïau ynni a’u rheolwyr yn elwa gymaint gan y rhyfel yn Wcráin tra bod teuluoedd a busnesau cyffredin yn dioddef.”

Byddai cynllun y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei ariannu drwy arian sydd wedi cael ei gadw ar gyfer cefnogaeth ynni’n barod, ond na fydd yn cael ei wario gan fod prisiau ynni yn gostwng.

Mae modd codi rhagor o arian drwy osod treth ffawdelw “addas” ar elwon cwmnïau ynni a nwy, meddai’r blaid.

Hwb “annisgwyl” i gyllid y Deyrnas Unedig yn sgil taliadau treth uchel

Cadi Dafydd

Yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones, mae’r cyhoeddiad yn “newyddion da” ond mae’n ansicr a fydd y newyddion da yn parhau i’r dyfodol