Mae hwb “annisgwyl” wedi bod i economi’r Deyrnas Unedig, wedi i Lywodraeth San Steffan wario llai nag y gwnaethon nhw ei dderbyn mewn trethi ym mis Ionawr.
Cafodd mwy o dreth ei thalu ar incwm hunanasesiedig nag yn ystod unrhyw fis arall ers i’r cofnodion ddechrau ym 1999.
Er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwario er mwyn helpu’r cyhoedd â biliau ynni ac ar daliadau i’r Undeb Ewropeaidd, fe wnaethon nhw dderbyn £5.4bn yn fwy nag y gwnaethon nhw ei wario.
Yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones, mae’r cyhoeddiad yn “newyddion da” ond mae’n ansicr a fydd y newyddion da yn parhau i’r dyfodol.
Elwon ynni a’r farchnad lafur
Mae’r cyllid cyhoeddus yn wannach nawr nag ar yr adeg hon y llynedd, ac mae disgwyl i’r Canghellor Jeremy Hunt gyhoeddi ei gynlluniau nesaf ar gyfer trethi a gwariant ar Fawrth 15.
“Wrth gwrs, mae’r rhagolygon i’r economi wedi bod yn o wael ond mae hi’n edrych fel bod pethau i weld ychydig bach yn well nag oedden ni’n ddisgwyl,” meddai Dr Edward Jones, sy’n ddarlithydd economegydd ym Mhrifysgol Bangor, wrth golwg360.
“Be mae hynny’n adlewyrchu ydy sefyllfa, resilience mewn ffordd, y farchnad lafur rydyn ni’n ei weld ym Mhrydain ar hyn o bryd.
“Wrth gwrs, mae’r levy sydd wedi cael ei roi ar incwm ynni wedi rhoi boost ychwanegol hefyd.
“Dw i’n tybio y bydd yr ochr yna’n cario ymlaen i ddod â refeniw treth da i’r llywodraeth.
“Ond wedi dweud hynna, mae prisiau ynni i weld yn disgyn ar hyn o bryd.
“Mae’r ffigurau’n well nag oedden ni’n ddisgwyl, ond dw i ddim yn gwybod os fydd hyn yn gallu cario ymlaen efo’r ddau brif beth sy’n dod mewn – y farchnad llafur yn well nag oedden ni’n ddisgwyl a mwy resilient, a’r refeniw treth yn dod gan brisiau uchel ynni.
“Ond rydyn ni’n gwybod bod prisiau ynni’n dod lawr a fyddan ni ddim yn gallu disgwyl yr un math o refeniw treth yn dod gan rheiny yn y dyfodol.
“Yn anffodus, rydyn ni’n gweld mwy o broblemau rŵan yn y farchnad llafur. Rydyn ni’n meddwl am y posibilrwydd bod 730 o bobol yn mynd i golli’u swyddi yn Sir Fôn, rydyn ni’n clywed mwy o’r straeon yma rŵan ac felly rydyn ni’n gwybod bod yna broblemau’n mynd i fod yn y farchnad llafur.
“Felly newyddion da, ond dw i ddim yn rhy siŵr os fydd y newyddion da yma’n cario ymlaen i’r dyfodol.”
Trethu cwmnïau sy’n defnyddio’r blaned
Bob Ionawr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn mwy mewn trethi nag y maen nhw’n ei wario yn sgil y swm maen nhw’n ei dderbyn gan drethi hunanasesiedig.
Ond roedd economegwyr wedi disgwyl i fenthyciadau’r llywodraeth gynyddu’r tro hwn, yn rhannol oherwydd y swm maen nhw’n ei dalu’n cefnogi aelwydydd gyda’u biliau ynni.
Ar hyn o bryd, mae cap o £2,500 ar brisiau ynni, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud y bydd y cap hwnnw’n cynyddu i £3,000 ym mis Ebrill yn sgil costau cefnogi aelwydydd.
Wrth drafod elwon cwmnïau ynni, dywed Dr Edward Jones nad yw’n cefnogi’r dreth ffawdelw – sef treth ychwanegol sy’n cael ei gosod ar elwon y cwmnïau ynni ar hyn o bryd.
“Mae hi’n dreth sy’n anodd ei gweinyddu ac rydyn ni wedi cael profiadau mewn sawl gwlad efo hyn,” meddai.
“Be’ fyswn i’n licio gweld ydy ein bod ni’n ailedrych ar y dreth ar gwmnïau sy’n defnyddio’r blaned – mae’r cwmnïau olew yma’n tynnu allan o’r blaned a’i werthu fo ymlaen – ein bod ni’n edrych ar y cwmnïau yma sy’n defnyddio adnoddau naturiol i wneud elw, ac yn eu trethu nhw yn gywir.
“Mae gennym ni’r argyfwng costau byw rŵan, ond mae’n rhaid i ni feddwl hefyd bod gennym ni’r argyfwng newid hinsawdd.
“Mae honno dal yn broblem, ac mi fyddan ni angen arian yn y sector cyhoeddus er mwyn taclo hyn, ac un ffordd o wneud hynny yw gwneud siŵr ein bod ni’n trethu’r cwmnïau yma sy’n defnyddio’r blaned yn gywir.
“Dw i’n cael rhyw deimlad ar hyn o bryd ein bod ni ddim yn gwneud hynna.”