Mae barn un o ymgeiswyr arweinyddol yr SNP ar briodas gyfartal wedi herio’r ffordd o feddwl am yr Alban fodern, yn ôl un Aelod Seneddol Llafur Cymru.

Daw sylwadau Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, wedi i Kate Forbes ddweud y byddai hi wedi pleidleisio yn erbyn priodasau o’r un rhyw.

Dywedodd hefyd, fodd bynnag, na fyddai hi’n trio gwrthwneud y gyfraith sy’n caniatáu priodasau hoyw yn yr Alban pe bai hi’n olynu Nicola Sturgeon.

Mae Kate Forbes, Aelod Senedd yr Alban dros Skye, Lochaber a Badenoch ac ysgrifennydd cyllid y wlad, wedi cyflwyno’i henw yn y ras i ddod yn arweinydd yr SNP, ynghyd â Humza Yousaf ac Ash Regan.

Ers iddi wneud y sylwadau ddoe (dydd Llun, Chwefror 20), mae sawl gweinidog yn Llywodraeth yr Alban wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi ei hymgyrch mwyach.

“Dw i wedi fy syfrdanu rywfaint y byddai un o ymgeiswyr arweinyddol yr SNP yn dweud eu bod nhw’n gwrthwynebu priodasau o’r un rhyw,” meddai Chris Bryant.

“Mae hynny’n herio fy holl amgyffred am yr Alban a’r Deyrnas Unedig fodern.”

Sylwadau Kate Forbes

Dywedodd Kate Forbes, gafodd ei hethol i Holyrood am y tro cyntaf yn 2016, y byddai hi wedi pleidleisio yn erbyn priodasau hoyw yn yr Alban pan ddaeth yn gyfreithlon yn 2014, oherwydd ei fod yn groes i’w barn bersonol fel aelod o Eglwys Rydd yr Alban.

“Mae priodas yn digwydd rhwng dyn a dynes, dyna dw i’n ei arfer, ond wnâi ddim mynd yn ôl ar unrhyw hawliau sy’n bodoli’n barod yn yr Alban,” meddai wrth siarad â Channel 4.

“Byddwn i wedi pleidleisio yn erbyn, a dw i’n meddwl mai’r enghraifft werth siarad amdani yw Angela Merkel.

“Dan arweiniad Angela Merkel, fe wnaeth hi gynnal pleidlais ar briodasau o’r un rhyw, fe wnaeth hi gyflwyno canlyniadau’r bleidlais honno i greu’r hawl gyfreithiol i briodas gyfartal.

“Ond fe wnaeth hi bleidleisio gyda’i chydwybod.”

Mae Kate Forbes wedi pwysleisio na fyddai hi’n trio dadwneud y gyfraith pe bai’n dod yn Brif Weinidog ar yr Alban.

“Mae priodasau cyfartal yn hawl gyfreithiol, ac fel gwas democratiaeth, yn hytrach na phennaeth unben, dw i’n llwyr barchu ac yn amddiffyn yr hawl ddemocrataidd honno,” meddai.

‘Dim lle i drafod fy mhriodas

“Dw i’n llwyr gefnogi priodas gyfartal. Dw i’n ddiwyro ar y mater hwn,” meddai Clare Haughey, gweinidog plant a phobol ifanc yr Alban, oedd wedi enwebu Kate Forbes yn y ras arweinyddol.

“Fedra i ddim parhau i gefnogi ymgyrch arweinyddol Kate.”

Dywedodd Paul O’Kane, yr Aelod o Senedd yr Alban dros Lafur yng ngorllewin y wlad, ei fod yn “eistedd dros y ffordd i Kate Forbes bob wythnos” a “does dim lle i drafod fy mhriodas”.

“Cafodd yr hawliau hyn eu hennill drwy frwydr galed gennyf i a channoedd o bobol eraill dros yr Alban,” meddai.

“Maen nhw’n cael eu dathlu gan ein cynghreiriaid, ffrindiau a theulu.

“Rhaid i’n Prif Weinidog eu cefnogi nhw.”

Cystadleuaeth arweinyddiaeth yr SNP: Pwy fydd yn olynu Nicola Sturgeon?

Elin Wyn Owen

Dyma gip ar yr hyn mae golwg360 yn ei wybod hyd yn hyn, a beth mae arbenigydd yn y maes yn ei feddwl o’r tri ymgeisydd