Mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, wedi dweud wrth Roberta Metsola, arweinydd ynys Melita, fod Catalwnia a dinas Barcelona eisiau chwarae rhan ganolog yn chwyldro digidol Ewrop.

Fe fu Metsola ar ymweliad â Barcelona ar ddiwedd uwchgynhadledd ‘Barcelona, prifddinas ddigidol Ewrop’ yn y ddinas.

“Mae Catalwnia’n diriogaeth sy’n agored i Ewrop ac i’r byd sydd eisiau ateb heriau mawr byd-eang ac Ewropeaidd,” meddai Pere Aragonès yn ystod cynhadledd i’r wasg.

Yn ystod ei araith, siaradodd am barodrwydd Catalwnia i “atgyfnerthu adleoleiddio gweithgarwch diwydiannol Ewrop” ac am “adfer cystadleuaeth fyd-eang”.

Un enghraifft nododd oedd y diwydiant lled-ddargludyddion, lle mae twf sylweddol wedi dechrau, gyda nifer o gwmnïau wedi agor swyddfeydd yng Nghatalwnia ar ôl buddsoddi miliynau o bunnoedd.

“Mae’n brosiect uchelgeisiol fydd yn newid system gystadleuaeth y cyfandir, ac mae Catalwnia’n barod i fod yn rhan o’r prosiect ac i fod ar flaen y gad yn y chwyldro digidol hwn,” meddai.

Tynnodd Roberta Metsola sylw at y ffaith fod Catalwnia wedi “atgyfnerthu” ei lle yn “nhirlun newidiol a chystadleuol” fel canolfan dechnolegol Ewropeaidd.