Mae dros 100 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn yr Alban yr wythnos hon i ddathlu Seachdain na Gàidhlig, neu Wythnos Gaeleg yr Alban.

Thema fawr yr wythnos eleni yw dod ynghyd, ac fe fydd cyfle i drigolion yr Alban ddod ynghyd ar gyfer prosiectau’n ymwneud â ffilmiau, pêl-droed a ceilidh (twmpath traddodiadol).

Mae digwyddiadau ar y gweill rhwng Chwefror 20-26, ac mae cyfres o adnoddau ar-lein wedi’i lansio i gyd-fynd â’r digwyddiadau hynny.

Mae’r wythnos yn ei hail flwyddyn eleni, ac mae dau lysgennad wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar, sef yr artist amlddisgyblaethol Choirstaidh Iona NicArtair a’r darlledwr, darlithydd a bardd John Urquhart.

Bwriad yr wythnos yw tynnu pobol ynghyd o bob cwr o’r byd i ddysgu Gaeleg yr Alban drwy gyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda chefnogaeth Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd Iaith Gaeleg yr Alban).

Gall pobol drefnu eu digwyddiadau eu hunain, ac mae grantiau bach wedi bod ar gael i drefnu’r digwyddiadau hyn, gyda 60 o geisiadau eleni.

Mae’r trefnwyr yn dweud eu bod nhw wrth eu boddau â’r ymateb eleni.

“Mae cael dros 100 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn yr ail Seachdain na Gàidhlig erioed, a 51 ohonyn nhw’n cael eu hariannu drwy ein Cronfa Grantiau Bach, jyst yn anhygoel,” meddai’r Cyfarwyddwr Joy Dunlop.

“Rydym yn parhau i gael ein hysbrydoli gan y syniadau a’r cynlluniau sy’n dod atom o bob cwr o’r byd, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn bosib heb yr arian ychwanegol sydd wedi’i ddyrannu i ni gan Bòrd na Gàidhlig.

“I unrhyw un arall fyddai’n hoffi cynnal eu digwyddiad eu hunain, ewch i’n gwefan swyddogol www.seachdainnagaidhlig.scot, a defnyddiwch ein hadnoddau cymorth rhad ac am ddim.

“Neu os hoffech chi gymryd y cam cyntaf hwnnw ar eich taith Aeleg ond dydych chi ddim yn gwybod sut, cysylltwch â ni drwy ein gwefan – rydyn ni yma i helpu.”

Adnoddau

Bydd modd i bobol gysylltu â’i gilydd dros y we drwy rannu negeseuon, ynganiadau a ffoneteg, delweddau a fideos gan ddefnyddio’r hashnod #SeachdainNaGàidhlig.

Trwy’r digwyddiadau, caiff unigolion, busnesau a’r gymuned ehangach eu hannog i chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu’r rhai sy’n siarad, dysgu ac eisiau dysgu’r iaith.

Mae addysgwyr yn derbyn cymorth gan drefnwyr yr wythnos, sydd wedi creu pecynnau addysg i helpu athrawon a phobol ifanc i gymryd rhan yn y fenter.

Yn y pecyn hwnnw mae adnoddau i helpu athrawon i gynllunio, cynnwys posib a gweithgareddau sy’n targedu plant oedran cynradd ac uwchradd o bob safon ieithyddol.

Wrth adeiladu ar ei llwyddiant yn 2023 a’r ymgyrch #SayAGaelicPhraseDay – rhywbeth tebyg i Ddiwrnod Shwmai Sumae – mae’r digwyddiad eleni wedi’i gefnogi gan Hands Up For Trad, sydd wedi lansio llu o fentrau eraill eleni hefyd.