Mae arweinydd Cyngor Sir Gâr wedi gofyn i gwmni sy’n bwriadu codi peilonau trydan ar hyd Dyffryn Tywi ailystyried eu cynlluniau.
Bwriad Ynni Bute yw codi peilonau 27 metr o uchder ar hyd y dyffryn er mwyn gosod cysylltiad trydan newydd am 60 milltir o Barc Ynni Nant Mithil ger Llandrindod i’r rhwydwaith grid cenedlaethol ger Caerfyrddin.
Mae dros 1,300 o bobol wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau eisoes, ac mae Darren Price, Cynghorydd Plaid Cymru ac arweinydd y Cyngor, yn poeni bod y cynllun yn gwrthdaro â’r strategaeth twristiaeth a hamdden gwyrdd ar gyfer economi’r ardal.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Gâr wrthi’n datblygu llwybr beicio ar hyd Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, a byddai codi’r peilonau yn gwrthdaro â’u gweledigaeth ar gyfer yr ardal, yn ôl arweinydd y cyngor.
“Mae Dyffryn Tywi wedi’i ddynodi’n Ardal Tirwedd Arbennig (SLA), sydd hefyd o bwysigrwydd ecolegol, hanesyddol a diwylliannol,” meddai Darren Price.
“Mae’r safleoedd hanesyddol yn cynnwys cestyll Dinefwr a Dryslwyn, a Phlasty a Gerddi Aberglasne. Byddai codi cyfres o beilonau uchel yn naturiol yn cael impact ar leoliad y cestyll sydd wedi’u cofrestri’n Gradd I gan CADW ac ar adeiladau hanesyddol eraill.
“Mae’r Cyngor wrthi’n troi ei weledigaeth o ddatblygu potensial twristiaeth y dyffryn yn realiti.
“Yn ganolog i hyn mae datblygu’r llwybr beicio a cherdded 16 milltir o hyd rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin, sy’n dilyn afon Tywi, ac yn mynd drwy un o ardaloedd prydferthaf Cymru.”
‘Rhaid ailystyried’
Roedd dros 70 o drigolion yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanarthne fis diwethaf, yn ogystal â thorf sylweddol yn Llandeilo nos Fercher (Chwefror 15), ac roedd cyfarfod pellach gan y Gynghrair Cefn Gwlad yn Llanymddyfri nos Wener (Chwefror 17).
Mae Cefin Campbell wedi codi pryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig gyda Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru hefyd.
“Mae cryfder teimladau lleol yn amlwg,” meddai Darren Price wedyn.
“Mae’n amlwg bod trigolion ar draws y Sir yn unedig yn eu gwrthwynebiad i’r peilonau hyn ac fel arweinydd y Cyngor rwy’n rhannu eu pryderon yn llwyr.
“Er fy mod i’n llawn werthfawrogi, ac yn cefnogi, yr angen i gynhyrchu ynni glân gwyrdd, mae’n rhaid gwneud hynny mewn ffordd sydd ddim yn dinistrio ein tirwedd naturiol ac, o bosib, yn niweidio ein heconomi twristiaeth.
“Felly, roedd fy neges i’r cwmni’n glir – rhaid i chi ailystyried eich cynlluniau drwy ymrwymo i gladdu’r ceblau hyn er mwyn cadw harddwch naturiol Dyffryn Tywi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”