Mae trethdalwyr Sir Benfro’n wynebu’r cynnydd mwyaf yn nhreth y cyngor o ran canran yn y gorllewin a’r canolbarth, ond byddan nhw’n dal i dalu’r swm lleiaf.
Fe wnaeth Cabinet Cyngor Sir Penfro, oedd wedi cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, gytuno ar gynnydd o 7.5%, fyddai’n cynyddu bil blynyddol eiddo Band D cyfartalog gan £62.46 i £1,311.63.
Byddai’r cynnydd o 7.5%, fydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor llawn ar Fawrth 2, yn cael ei gyplysu ag arbedion yn y gyllideb o £8.055m, gan ddefnyddio arian o refeniw treth y cyngor ar ail gartref, amcangyfrif o £1.6m o arian wrth gefn, ac arbedion yn y gyllideb.
Cawson nhw rybudd y byddai’n rhaid i’r cynnydd yn nhreth y cyngor godi i 12.9% i fantoli’r gyllideb pe na bai’r Cyngor llawn yn cefnogi defnyddi refeniw o bremiwm treth y cyngor ar ail gartrefi.
Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion
Yn ystod cyfarfod mis Chwefror o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion cyfagos, cytunodd aelodau i gynnydd o 7.3% yn lefel treth y cyngor ar gyfer 2023-24.
Byddai’n cyfateb i gost Band D at ddibenion y Cyngor Sir o £1,553.60 sy’n gynnydd o £105.70, fyddai’n gwneud bil cyfartalog Ceredigion yn fwy na £240 yn uwch na Sir Benfro.
Bydd penderfyniad terfynol ar y cynnydd yn cael ei wneud yn ystod cyfarfod Cyngor llawn Ceredigion ar Fawrth 2, yr un diwrnod â Sir Benfro.
Mae disgwyl i dreth y cyngor yn Sir Gaerfyrddin godi gan 6.8% eleni, sy’n is na’r hyn oedd wedi’i ragdybio, yn dilyn ymgynghoriad mwyaf erioed y Cyngor ar y gyllideb.
Mae disgwyl i’r cynnydd terfynol yn Sir Gaerfyrddin gael ei drafod fis nesaf.
Bydd cynnydd disgwyliedig o 5% yn nhreth y cyngor ym Mhowys yn cael ei benderfynu mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn ar Chwefror 23.
Yng ngharfod Chwefror Cabinet Cyngor Sir Penfro, cafodd aelodau wybod fod gan y Cyngor y ‘Band D’ treth cyngor isaf yng Nghymru ar gyfer 2022-23 – £1,249.17 – er gwaethaf cynnydd o 12.5%, 9.92%, 5%, 3.75% a 5% ers 2018-19.
£1,447.90 yw’r swm yng Ngheredigion, a £1,396.04 yn Sir Gaerfyrddin.
Mae disgwyl y bydd gan drethdalwyr Sir Benfro y biliau treth cyngor isaf ar ôl i’r holl awdurdodau lleol osod eu lefelau.
“Mae bod â’r dreth gyngor ‘Band D’ isaf yn golygu bod unrhyw gynnydd canran yn nhreth y cyngor yn Sir Benfro’n cynhyrchu llai o incwm na chynnydd cyfatebol eraill yn awdurdodau lleol eraill Cymru,” meddai adroddiad ar gyfer aelodau.
Yn seiliedig ar y ffigurau presennol ar gyfer 2022-23, byddai cynnydd o 1% yn nhreth y cyngor yn golygu £12.49 y flwyddyn i Sir Benfro ar gyfer pob eiddo Band D, £1.99 yn llai na Cheredigion gyfagos, £1.47 yn llai na Sir Gaerfyrddin, a £5.19 yn llai na Blaenau Gwent, yr awdurdod sydd â’r cynnydd mwyaf yn nhreth y cyngor.
Yn y gorffennol, mae’r arweinydd David Simpson wedi dweud bod cyfraddau isel y dreth gyngor yn y sir yn “gamgymeriad”.