Mae’r ddeiseb, gafodd ei threfnu gan Adam Price a Cefin Campbell o Blaid Cymru, yn gwrthwynebu’r cynigion gafodd eu hamlinellu gan Bute Energy a allai weld coridor o beilonau ar hyd y dyffryn.
Yn hytrach, maen nhw’n galw am osod y ceblau trydan o dan y ddaear.
Pryderon
Yn gynharach eleni, ysgrifennodd y datblygwr ynni adnewyddadwy Bute Energy at dirfeddianwyr lleol yn Nyffryn Tywi yn amlinellu cynigion ar gyfer cysylltiad trydan 60 milltir 132Kv newydd o Barc Ynni Nant Mithil i’r dwyrain o Landrindod, i’r rhwydwaith trydan presennol rhwng Caerfyrddin a Phont Abraham.
Mae’r cynigion, allai weld peilonau 27 metr o uchder yn cael eu codi ar hyd y dyffryn, wedi achosi pryder yn lleol ynghylch yr effaith debygol ar harddwch naturiol a threftadaeth y dyffryn.
Roedd dros 70 o drigolion yn bresennol mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanarthne fis diwethaf, yn ogystal â thorf sylweddol yn Llandeilo nos Fercher (Chwefror 15), a chyfarfod pellach wedi’i drefnu gan y Gynghrair Cefn Gwlad yn Llanymddyfri ar nos Wener (Chwefror 17).
Mae Cefin Campbell wedi codi pryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig gyda Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Yn ei gwestiwn yn gynharach y mis hwn, cyfeiriodd at alw cynyddol yn y gymuned leol i unrhyw ddatblygiad grid o’r fath gael ei gladdu o dan y ddaear.
‘Adlewyrchiad clir o gryfder y teimladau yn lleol’
“Mae’r ffaith bod y ddeiseb hon wedi denu dros fil o lofnodion mewn mater o ychydig ddyddiau adlewyrchiad clir o gryfder y teimladau yn lleol o fewn Dyffryn Tywi tuag at gynlluniau o’r fath,” meddai Adam Price, sy’n cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn y Senedd.
“Mae’r ddeiseb yn cydnabod yr angen i ddatblygu prosiectau adnewyddadwy gwyrdd, ond mae’n pwysleisio y dylid gwneud hyn mewn modd cytbwys – gan gydnabod anghenion a buddiannau ein cymunedau a’n hamgylchedd naturiol.
“Fel cynifer o rai eraill, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, os yw fath gynigion am gael eu gwireddu, rhaid blaenoriaethau gosod y ceblau o dan y ddaear ar hyd Dyffryn Tywi, yn hytrach na pheilonau.”
Diogelu harddwch a threftadaeth yr ardal
“Mewn ymateb i fy nghwestiwn yn y Senedd yn gynharach y mis hwn, cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd mai polisi Llywodraeth Cymru yw y dylid gosod ceblau trawsyrru trydan o dan y ddaear lle bo modd,” meddai Cefin Campbell, sy’n cynrychioli’r canolbarth a’r gorllewin yn y Senedd.
“Mae’r ddeiseb hon yn adleisio’r safbwynt hwn a byddai’n helpu i sicrhau bod harddwch naturiol a threftadaeth Dyffryn Tywi yn cael eu diogelu.”