Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, yn mynnu atebion brys gan un o ddarparwyr gofal mwyaf y Deyrnas Unedig, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y cwmni wedi atal talu codiad cyflog gafodd ei ariannu gan y llywodraeth, i staff am dros chwe mis.
Mae etholwyr sy’n gweithio fel gofalwyr i Achieve Together – darparwr cymorth blaenllaw i bobol ag anableddau dysgu, awtistiaeth, PMLD, pobol fyddar a’r rheiny sydd ag anghenion cymhleth yn ardal Ardudwy – wedi cysylltu â Mabon ap Gwynfor i fynegi pryder am y sefyllfa.
Cafodd codiad cyflog, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ei ddyfarnu i ofalwyr sy’n cael eu cyflogi gan Achieve Together fis Ebrill y llynedd, ac fe gaiff ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd, oedd wedi dechrau talu’r codiad yn uniongyrchol i’r darparwr gofal ar Ebrill 1.
Fodd bynnag, ni chafodd gofalwyr rheng flaen unrhyw dâl o’r arian ychwanegol, oedd yn cyfateb i’r cyflog byw go iawn, tan fis Hydref – dros chwe mis ers i Achieve Together dderbyn yr arian ychwanegol, gyda rhai yn dal heb dderbyn yr arian sy’n ddyledus iddyn nhw.
Dywedodd y darparwr gofal wrth weithwyr na fydden nhw’n derbyn unrhyw ôl-daliad am y chwe mis y dylen nhw fod wedi bod yn derbyn y codiad cyflog.
Mae Mabon ap Gwynfor bellach wedi codi’r mater yn y Senedd, ar ôl ysgrifennu at Achieve Together heb unrhyw ymateb.
‘Dyma arian sy’n gwbl ddyledus i gyflogau’r gweithlu’
“Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal yn derbyn y cyflog byw go iawn, a oedd i fod i gael ei dalu i weithwyr gofal o fis Ebrill 2022,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Fy nealltwriaeth i yw mai Llywodraeth Cymru a ddarparodd yr arian ar gyfer yr awdurdodau lleol, ac yn fy etholaeth i, o leiaf, gwn fod Cyngor Gwynedd yn ei dro, wedi trosglwyddo’r arian hwnnw i’r darparwyr gofal.
“Fodd bynnag, mae un darparwr, Achieve Together, sy’n darparu gwasanaethau gofal i bobl fregus yn Nwyfor Meirionnydd, wedi methu â thalu’r codiad hwnnw i’w weithwyr am y cyfnod rhwng Ebrill a Hydref 2022.
“Dyma arian sy’n gwbl ddyledus i gyflogau’r gweithlu.
“Dywed y cwmni na allan nhw dalu oherwydd nid yw pob awdurdod wedi trosglwyddo’r arian, ond nid arian i nhw ei gadw yw hyn.
“Mae’n codi’r cwestiwn beth yn union sydd wedi digwydd i’r arian, a phryd gall gweithwyr ddisgwyl gweld y cyflog sy’n gwbl ddyledus iddynt.
“Mae’n syfrdanol na chafodd gweithwyr gofal rheng flaen ar yr isafswm cyflog yr arian sy’n ddyledus iddynt tan fis Hydref 2022, gyda rhai yn dal i aros am eu codiad cyflog a chael gwybod na fyddant yn cael unrhyw ôl-daliad.
“Mae gweithwyr gofal ar draws Dwyfor Meirionnydd yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i’r rhai y maent yn gofalu amdanynt, ac eto maent ymhlith y rhai yr effeithir arnynt waethaf gan yr argyfwng costau byw.
“Mae atal eu codiad cyflog yn waradwyddus.
“Rwyf wedi gofyn i lywodraeth Cymru ymchwilio i hyn ar frys ac wedi cael sicrwydd y bydd ymchwiliad i’r mater.
“Rwyf wedi ysgrifennu eto at Achieve Together yn gofyn am eglurhad o ble mae’r arian wedi mynd a pham y gwrthodwyd arian i weithwyr sy’n gwbl haeddiannol ohono.”