Mae’r SNP yn disgwyl penodi arweinydd newydd o fewn chwe wythnos, yn dilyn cyhoeddiad eu harweinydd Nicola Sturgeon ei bod hi’n bwriadu camu o’r neilltu.
Wrth egluro’i phenderfyniad, dywedodd Nicola Sturgeon nad yw ei harweinyddiaeth yn gymaint o ased ag yr oedd o’r blaen wrth frwydro i sicrhau Alban annibynnol.
Mae enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth bellach ar agor, a byddan nhw’n cau ar Chwefror 24.
Ymhlith yr ymgeiswyr posib mae Kate Forbes, John Swinney ac Angus Robertson.
Bydd modd i aelodau’r SNP fwrw eu pleidlais rhwng Mawrth 13 a 27.
Dydy hi ddim yn glir eto pryd fydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi, ond mae disgwyl i Nicola Sturgeon aros yn ei swydd tan bod arweinydd newydd wedi’i gyhoeddi.
Ymhlith prif ddyletswyddau’r arweinydd newydd fydd uno aelodau wrth iddyn nhw geisio ffordd ymlaen yn y frwydr dros annibyniaeth.
Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan wedi gwrthod yr hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm, yn dilyn refferendwm aflwyddiannus yn 2014 lle mai dim ond 45% o’r boblogaeth oedd eisiau gadael y Deyrnas Unedig.
Yn y cyfamser, mae’r SNP wedi gohirio cynhadledd ar Fawrth 19 yn dilyn cyhoeddiad Nicola Sturgeon.
Daw hyn wrth i’r SNP wynebu ras arweinyddol am y tro cyntaf ers 2004 pan ddaeth Alex Salmond i rym.
Cafodd Nicola Sturgeon ei hethol yn arweinydd yn dilyn y refferendwm annibyniaeth yn 2014, ond cafodd grym ei drosglwyddo iddi heb etholiad.
Fe fu’r SNP mewn grym yn yr Alban ers 16 o flynyddoedd, ac mae ganddyn nhw 45 allan o 59 o seddi Albanaidd yn San Steffan, ac mae nifer aelodau’r blaid wedi codi’n sylweddol i oddeutu 100,000.
Mae’r rheolau yn yr Alban yn golygu y byddai Aelod o Senedd yr Alban fwy neu lai yn sicr o ddod yn arweinydd drwy sefyll.
Pe bai ymgeisydd yn aelod seneddol yn San Steffan, byddai’n rhaid iddyn nhw ymddiswyddo o Lundain a sefyll ar gyfer Senedd yr Alban.
Un sydd wedi cadarnhau na fydd yn sefyll yw Stephen Flynn.