Mae Tribiwnlys Waitangi yn Seland Newydd wedi dod i’r casgliad bod y Goron wedi amddifadu’r Māori o’u hawliau drwy fethu â sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o gyllid i gymryd rhan yn y tribiwnlys, yn ôl adroddiadau yn y wlad.
Roedd y rhai oedd wedi dwyn achos, ac sydd wedi wynebu sawl gwrandawiad, yn dadlau bod diffyg cyllid yn golygu bod eu gallu i ddwyn achos wedi’i beryglu’n ddifrifol, sydd yn groes i Gyfansoddiad Seland Newydd.
Maen nhw wedi bod yn ceisio ateb ers blynyddoedd, ac mae nifer o wrandawiadau wedi’u cynnal.
Cytundeb Waitangi oedd y ddogfen gafodd ei llofnodi wrth sefydlu Seland Newydd yn wlad.
Fe wnaeth y Goron gydnabod fod yna wendidau yn y drefn gyllido bresennol, ond maen nhw’n dweud bod y drefn yn ddigon da i fodloni’r Cytundeb.
Mae’r tribiwnlys wedi mynegi pryderon fod swyddogion yn ymwybodol o wendidau ond nad oedd y llywodraeth wedi gweithredu’n ddigon cyflym.
Yn ôl y tribiwnlys, rhan o waith y Goron yw sicrhau proses sy’n ddiwylliannol briodol, ac maen nhw’n annog y Goron a’r Māori i ddod ynghyd i gynnal trafodaethau o’r newydd.
Maen nhw’n dweud nad yw’n briodol nac yn dderbyniol fod polisi’n cael ei lunio ymhell cyn rhoi’r cyfle i’r Māori ymateb neu gymryd rhan yn y broses o lunio’r polisi hwnnw.
Mae’r adroddiad yn rhan o adolygiad o brofiadau’r Māori wrth ymwneud â’r system gyfiawnder.