Mae ymchwil newydd wedi datgelu sut y gwnaeth aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ymdopi â’r heriau ddaeth yn ystod cyfnod y pandemig Covid-19.
Mae’r astudiaeth yn ganlyniad cydweithio rhwng tîm COVINFORM, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe.
Mae Prifysgol Abertawe yn rhan o COVINFORM, sef astudiaeth ryngwladol sy’n dadansoddi’r ffordd y mae arweinwyr a chymunedau yn Ewrop wedi ymateb i Covid, sy’n canolbwyntio’n benodol ar y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.
Ymysg y rhai gafodd eu heffeithio fwyaf yw gweithwyr iechyd, grwpiau sy’n wynebu risg, pobol hŷn, plant a mudwyr, sydd wedi arwain at yr adroddiad diweddaraf gan y swyddog ymchwil Diana Beljaars, yr Athro Sergei Shubin, o Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol, a’r Athro Emeritws Nyrsio Louise Condon.
Cafodd yr arolwg ei lunio, ei gynnal a’i ysgrifennu i helpu arweinwyr iechyd y rhanbarth i wella darpariaeth gofal iechyd ar gyfer ystod o grwpiau lleiafrifol ethnig yn ne Cymru.
‘Amlygu gwahaniaethau a chyffelybiaethau niferus’
“Mae’r astudiaeth hon yn gwneud mwy na dangos sut mae pobol o gefndir lleiafrifol ethnig wedi cael canlyniadau iechyd tebyg a chanlyniadau iechyd gwahanol i bobl groenwen,” meddai Dr Diana Beljaars.
“Ar ben hynny, mae’n amlygu’r gwahaniaethau a’r cyffelybiaethau niferus rhwng y grwpiau ethnig.
“Yn bwysicaf oll, mae’n trin a thrafod cymhlethdodau bywydau pob dydd pobol yn ne Cymru a’r cymhlethdodau wrth lywio’r pandemig, sy’n ddigwyddiad hollgynhwysol yn eu bywydau.
“O ddyfnder y dyngarwch hwn, mae’r adroddiad yn cynnig awgrymiadau newydd i ddarparwyr gofal iechyd er mwyn gwella eu gwasanaethau i bawb.”
Yn ôl Shaz Abedean, arweinydd Allgymorth y Bwrdd Iechyd i bobol dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig, roedd yr astudiaeth yn gyfle i “gysylltu â phobol nad oedden nhw’n cael eu clywed go brin”.
“Er gwaethaf y cyfyngiadau symud, drwy ddefnyddio ein sgiliau ymgysylltu gwnaethom gyrraedd pobol oedd am rannu eu profiadau o Covid,” meddai.
“Roedd hon yn dystiolaeth glir i ddangos nad y gymuned BAME oedd yn anfodlon ymgysylltu, ond efallai mai ymagwedd y gwasanaethau sy’n gwneud y gymuned naill ai’n anfodlon bod yn rhan o ymgynghoriadau neu astudiaethau neu’n anymwybodol o’r rheini.”
Cefndiroedd lleiafrifol
Gwnaeth yr astudiaeth ddogfennu effaith camau gweithredu ar gyfer y pandemig ar fywydau pobol o leiafrifoedd ethnig yn y rhanbarth, wrth nodi nodweddion cymdeithasol all hefyd wneud pobol yn agored i niwed.
Gwnaeth gyfuno dealltwriaeth ystadegol o faterion megis hygyrchedd gofal iechyd, cyflogaeth, ymddiriedaeth mewn awdurdodau, cael gwybodaeth am y pandemig, ac iechyd meddwl, â chwestiynau penagored penodol sy’n gofyn am fyfyrdodau mwy penodol.
Gwnaeth y rhain arwain at ddealltwriaeth o bynciau megis y cartref, marwolaeth, unigrwydd, teulu a chrefydd.
“Mae’n drist, dwi ddim yn gallu cysgu’n iawn pan dwi’n meddwl amdano,” meddai un fyfyrwraig Fwslimaidd o Bort Talbot, pan gafodd ei holi sut newidiodd ei barn am farwolaeth a marw yn ystod y pandemig.
“Ysgrifennais i neges at fy mhlant oherwydd bod bywyd yn rhy fyr – dyw heddiw ddim yn sicr i ni, heb sôn am yfory,” meddai Mwslim arall sydd â chroen gwyn.
Hefyd, gwnaeth y tîm ystyried lefel y cymorth cymunedol, a bu profiadau cymysg.
“I lawer o bobol, gwnaeth mentrau yn y pandemig gyflwyno neu atgyfnerthu cysylltiadau cymunedol blaenorol ac ymdeimlad o berthyn cymdeithasol, ond mae rhai ymatebwyr yn nodi nad oeddent yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned a/neu eu bod wedi’u heithrio,” meddai’r adroddiad.
“Dyw hi ddim yn hawdd gwneud ffrindiau gyda phobol leol ac weithiau dwi’n teimlo bod hiliaeth gynnil yno o hyd”, meddai dyn o gefndir Asiaidd sy’n anghyffredin yn Abertawe.
Dywedodd dyn di-waith o dreftadaeth Garibïaidd Ddu/Wyn o Gastell-nedd ei fod “wedi colli cyswllt â phawb”, gan ychwanegu bod y pandemig wedi gwneud iddo deimlo mwy o ofn ac yn fwy isel ei ysbryd.
Newid agweddau at awdurdodau iechyd
Roedd Covid-19 hefyd wedi newid agweddau at yr awdurdodau iechyd, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinwyr ysbytai.
Gwnaeth un dyn o Abertawe â chefndir ethnig Asiaidd/Gwyn cymysg sylwi sut roedd rhai wedi colli hyder ym marn yr awdurdodau ac eraill yn cyd-fynd â syniadaeth wrth-frechu.
Hefyd, gwnaeth yr adroddiad roi cyfle i bobol rannu eu profiadau am frechlynnau a sut gwnaethon nhw benderfynu eu cael ai peidio.
“Gwnes i anwybyddu’r gamwybodaeth a gwrando ar ganllawiau’r llywodraeth,” meddai un fenyw Affricanaidd Groenddu Gristnogol o Abertawe.
‘Amrywiaethu profiadau o’r pandemig’
Mae’r ymchwilwyr yn teimlo bod eu hadroddiad wedi gallu amrywiaethu profiadau o’r pandemig y tu hwnt i’r rhai o dras croenwyn Cymreig a thras croenwyn Prydeinig, a hefyd ei fod wedi helpu i chwalu’r rhagfarn mae’r grwpiau hyn wedi’i hwynebu ynghylch ymgysylltu â chamau gweithredu yn y pandemig.
Mae’n dilyn y dadansoddiad arolwg ehangach a mwy sylweddol, sef Opinions on Test, Trace, Protect and Covid-19 vaccination services by BAME and White people in Swansea and Neath Port Talbot.
Mae tîm COVINFORM bellach yn gobeithio y caiff ei ganfyddiadau eu defnyddio i lywio polisi a gwella anghydraddoldebau cymdeithasol o ran iechyd ar gyfer y grwpiau hyn.
“Rydym ni’n gwybod nad oes ‘un ateb i bopeth’ ond a ydym ni wir yn deall hynny?” meddai Shaz Abedean.
“Mae’r argymhellion yn dangos bod angen i ni ddechrau ystyried ein ffyrdd o weithredu a’u teilwra at anghenion unigolion neu gymunedau.
“Mae hi wedi bod yn daith wrando a deall yn bendant.”